Ford: 'Llywodraeth y DU yn dangos dirmyg tuag at Gymru'

Ffynhonnell y llun, Ford

Mae gwleidyddion ac undebau wedi mynegi eu siom yn dilyn cyhoeddiad y bydd cytundeb ffatri Ford ym Mhen-y-bont i adeiladu injans Jaguar Land Rover yn dod i ben dri mis ynghynt na'r disgwyl.

Mae Ford wedi cadarnhau y bydd ei gytundeb i greu injans petrol i JLR yn dod i ben ym mis Medi 2020, yn hytrach nac ar ddiwedd y flwyddyn fel oedd y bwriad yn wreiddiol.

Mae Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad Ogwr wedi galw ar lywodraeth y DU i ymyrryd, gan awgrymu eu bod wedi chwarae rhan ym mhenderfyniad JLR i beidio ymestyn y cytundeb.

Dywedodd Ford bod y newyddion yn siomedig ond ei fod yn chwilio am gyfleoedd busnes newydd.

Symud i Wolverhampton?

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Chris Elmore (AS) a Huw Irranca-Davies (AC): "Os mai'r achos, fel rydyn ni'n ei amau, yw y gallai'r cytundeb i greu'r injans symud i Wolverhampton yn dilyn cytundeb gyda chefnogaeth uniongyrchol gan lywodraeth y DU, mae'n dangos dirmyg llwyr i'r gweithlu Cymreig a'u teuluoedd, a dirmyg tuag at Gymru.

"Os oes cytundeb wedi'i wneud yn Wolverhampton, mae'n rhaid i'r prif weinidog drefnu cefnogaeth ar frys i Ben-y-bont i wneud yn iawn am unrhyw niwed sydd wedi'i wneud i gynaladwyedd hirdymor y ffatri.

"Rydyn ni angen i lywodraeth y DU ddangos ei chefnogaeth, ac nid dwyn swyddi i ffwrdd o Ben-y-bont yw'r ffordd i wneud hyn."

Mae 1,930 o staff yn gweithio yn y ffatri ym Mhen-y-bont, ac mae tua hanner y rheiny yn gweithio ar yr injan ar gyfer JLR.

Ar hyn o bryd mae'r ffatri yn creu 750,000 o injans pob blwyddyn, ond ar ôl 2020 dim ond cytundeb i greu tua chwarter i nifer yna sydd gan y safle.

Mae undeb y GMB wedi galw am gyfarfod brys gydag Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates i drafod y ffordd orau i ddiogelu swyddi yn y diwydiant moduro.

Maen nhw'n dweud y gall y cyhoeddiad heddiw olygu y bydd 1,100 o swyddi'n cael eu colli yn y ffatri.

Dywedodd trefnydd rhanbarthol yr undeb, Jeff Beck: "Oni bai bod cytundebau eraill yn cael eu canfod, bydd hyn yn cael effaith andwyol ar gymunedau Pen-y-bont, yn ogystal â de Cymru gyfan."

'Popeth o fewn ein gallu'

Dywedodd Mr Skates: ""Ry'n ni'n galw ar JLR i gadarnhau na fydd y penderfyniad hwn yn arwain at golli swydd yng Nghymru wrth iddynt symud i orllewin canolbarth Lloegr.

"Ry'n ni'n parhau'n llwyr ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i warchod safle Ford ym Mhen-y-bont, ac ry'n ni mewn cysylltiad agos â'r cwmni a'r undebau.

"Yn ddiweddar, cwrddais i a'r Prif Weinidog ag uwch-gynrychiolwyr Ford a'r undebau i drafod dyfodol hirdymor y safle, gan sefydlu gweithgor i edrych ar yr holl opsiynau posibl."