Â鶹ԼÅÄ

Ford: Pleidlais agos o blaid streic ym Mhen-y-bont

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr FordFfynhonnell y llun, ford
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cyhoeddiad ym mis Medi bod y buddsoddiad mewn cynllun i ddatblygu injan newydd wedi gostwng.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru yn deall bod gweithwyr ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi pleidleisio o drwch blewyn o blaid gweithredu'n ddiwydiannol yn sgil pryderon am ddyfodol y safle.

Mae dogfen sydd wedi ei gweld gan Â鶹ԼÅÄ Cymru yn manylu ar ganlyniad y bleidlais, gan ddangos bod 52.1% o weithwyr wnaeth fwrw eu pleidlais o blaid cynnal streic, a 47.9% yn erbyn.

Roedd 71.9% o weithwyr wnaeth bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol ond ddim streicio, gyda 28.1% yn erbyn.

Fe gafodd y bleidlais ei chynnal ym mis Mai yn dilyn pryderon am ddyfodol y safle o 2021 ymlaen.

'Pleidlais yn rhy fuan'

Dywed Ford eu bod wedi ymrwymo i drafodaethau parhaus gyda'r undebau, ac yn ystyried ei bod hi'n rhy fuan i gynnal pleidlais ar weithredu diwydiannol.

Cyhoeddodd y cwmni ceir gynlluniau fis Medi y llynedd i dorri lefel y buddsoddiad o £181m i £100m, gan leihau nifer y peiriannau petrol newydd oedd i fod i gael eu cynhyrchu ym Mhen-y-bont.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi gofyn am ymateb undeb Unite.