Â鶹ԼÅÄ

Ford yn rhagweld colli 1,160 o swyddi ym Mhen-y-bont

  • Cyhoeddwyd
Ford Pen-y-bontFfynhonnell y llun, Ford

Mae cwmni ceir Ford yn dweud eu bod yn disgwyl gweld 1,160 o swyddi'n cael eu colli yn eu ffatri ym Mhen-y-bont erbyn 2021.

Mewn dogfen gan y cwmni sydd wedi ei weld gan Â鶹ԼÅÄ Cymru, maen nhw'n rhagweld na fyddan nhw'n gallu denu rhagor o waith i'r safle.

Byddai colli cymaint â hynny o swyddi yn gadael gweithlu o tua 600 ym Mhen-y-bont.

Mewn datganiad ddydd Mercher, wnaeth Ford ddim gwadu ei fod yn rhagweld colli'r swyddi, ond ychwanegodd ei fod yn parhau i drafod â'r undebau i ddod o hyd i ddatrysiad.

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones mae'r adroddiadau o'r diswyddiadau yn ddarlun o'r "sefyllfa waethaf posib" allai ddigwydd.

Ychwanegodd Prif Weinidog y DU, Theresa May y byddai ei llywodraeth yn parhau i gael "deialog cyson" gyda'r cwmni yn sgil y bygythiad i swyddi ym Mhen-y-bont.

Disgrifiad,

Mae'r cyfathrebu rhwng Llywodraeth Prydain a Ford yn Ewrop yn parhau, medd Alun Cairns.

Dywedodd Ford eu bod yn disgwyl y bydd digon o waith ar gyfer y gweithlu presennol am y "ddwy i dair blynedd nesaf", ond eu bod ar hyn o bryd yn disgwyl gweld lleihad yn y llwyth gwaith wedi hynny.

"Mae Ford felly wedi cynnig sefydlu grŵp gwaith ar y cyd gyda'i phartneriaid undeb, Unite a GMB, er mwyn dod o hyd i gyfleoedd busnes yn y dyfodol," meddai'r cwmni.

"Mae'n glir, er mwyn denu busnes newydd, y bydd angen i'r gwaith ym Mhen-y-bont sicrhau ei fod yn gystadleuol, ac fe fyddai delio â rhai o'r pryderon yn ymwneud ag effeithlonrwydd y ffatri fod yn uchel ar yr agenda."

Bydd cyfarfodydd brys yn cael eu cynnal yn y ffatri ddydd Mercher o ganlyniad i'r datblygiad.

Daeth cyhoeddiad ym mis Medi bod y .

Ffynhonnell y llun, AP

Ar hyn o bryd mae Ford yn creu 655,000 o beiriannau ym Mhen-y-bont ond mae'r cytundebau ar gyfer y rheiny yn dod i ben, a dim ond gwaith ar gyfer 125,000 o'r rheiny sydd wedi'i warantu yn y dyfodol.

Mae'r ddogfen yn dweud bod y ffatri'n tanberfformio o'i gymharu â safleoedd tebyg, gan gynnwys ffatri'r cwmni yn Dagenham.

Mae lefelau gweithio dros oriau dros ddwbl beth ydyn nhw yn Dagenham, ac mae hynny'n ychwanegu 6% at y gost o gynhyrchu'r peiriannau.

Yn ôl y cwmni, mae hyn yn deillio o absenoldebau, diffyg perfformiad, ac arferion gwaith sy'n cynnwys talu lwfans nad oedd staff yn gymwys i'w dderbyn, yn ogystal â chyfnewid swyddi rheolaidd.

Ychwanegodd y ddogfen y byddai'n rhaid gwella perfformiad os am ddenu rhagor o waith i Ben-y-bont.

'Gwaith i'w wneud'

Yn ôl Carwyn Jones mae'r amcangyfrif o ddiswyddiadau yn darlunio'r "sefyllfa waethaf posib" allai ddigwydd.

Dywedodd ei fod mewn cysylltiad parhaol gyda Ford Europe ac y byddai Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r cwmni i ddod â buddsoddiad newydd yn y dyfodol.

"Mae gwaith i'w wneud, ond dwi'n hyderus y gallwn ni gryfhau sefyllfa Ford Pen-y-bont," meddai wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru.

Ychwanegodd fod rheolwyr Pen-y-bont wedi caniatáu i "arferion gwaith llesteiriol" ddatblygu, ac nad oedd y berthynas rhwng undebau a rheolwyr "cystal ag y gallai fod".

Wrth ymateb i alwadau arno i siarad â rheolwyr Ford yn yr Unol Daleithiau, dywedodd: "Fyddai dim pwynt gwneud hynny - mae pob penderfyniad yn cael ei wneud gan Ford yn Ewrop."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwleidyddion y gwrthbleidiau wedi galw ar Carwyn Jones i deithio i Detroit i siarad ag arweinwyr Ford

Fis diwethaf fe alwodd Unite ar benaethiaid Ford i greu ar gyfer eu safle ym Mhen-y-bont.

Dywedodd yr undeb bod y cyfarfodydd ddydd Mercher yn golygu bod gweithwyr "gam yn nes at streicio i amddiffyn eu swyddi".

Dywedodd Len McCluskey o'r undeb: "Mae aelodau Unite wedi ymrwymo i Ford, mae'r Cynulliad wedi ymrwymo i Ford, yr unig beth sydd angen nawr yw i Ford ymrwymo i'w weithlu.

"Mae hynny'n golygu buddsoddiad newydd, cynnyrch newydd a chynllun clir ar gyfer dyfodol y ffatri."

'Mewn sioc'

Dywedodd Aelod Seneddol Pen-y-bont, Madeleine Moon wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru ei bod wedi siarad â chynrychiolwyr Ford ddydd Mawrth ac nad oedd unrhyw sôn am golli swyddi.

"Rydw i mewn sioc," meddai wrth Â鶹ԼÅÄ Radio Wales.

"Cyn belled ag yr oeddwn i yn ei ddeall, roedd Ford yn ceisio dod o hyd i fwy o waith ym Mhen-y-bont - ni chafodd unrhyw beth ei ddweud am golli swyddi."

Yn dilyn hynny, cafodd Ms Moon ei beirniadu gan ysgrifennydd undeb Unite yng Nghymru, Andy Richards, am gynnig cysur Jôb wrth ymateb i'r pryderon.

"Fe aeth Madeline Moon, pan godon ni'r pryderon, ar y teledu a dweud ein bod ni'n gorymateb a'i bod wedi cael sicrwydd," meddai cyn-gadeirydd Llafur Cymru.

"Mae'n edrych i ni fel bod Madeline druan wedi cael ei thwyllo gan y cwmni."

Ond mynnodd Ms Moon nad oedd hynny'n wir, ac mai'r "unig sicrwydd rydw i wedi'i dderbyn yw bod Ford yn parhau i chwilio am gytundebau newydd ar gyfer Pen-y-bont".

Galw am gyfarfod

Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price wedi galw ar Mr Jones i siarad yn uniongyrchol â phennaeth Ford i geisio cael sicrwydd ynglŷn â dyfodol y safle ym Mhen-y-bont.

"Gan fod y Prif Weinidog mas yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd ar gyfer dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Washington DC, byddwn yn ymbil arno nawr i deithio draw i Detroit i bencadlys Ford er mwyn cael cyfarfod wyneb yn wyneb gyda'u prif weithredwr, Mark Fields," meddai ar raglen Post Cyntaf Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru fore Mercher.

"Mae hyn yn amlwg yn creu pryder a chonsyrn i'r gweithwyr yno wrth gwrs, ond hefyd ar draws yr economi Cymreig - nid yn unig i'r ffatri ond hefyd i'r cyflenwyr sy'n ddibynnol yng Nghymru ar gynhyrchiant yn Ford."

Disgrifiad,

Adam Price yn galw ar Carwyn Jones i siarad yn uniongyrchol â phennaeth Ford

Ar hyn o bryd, mae'r safle yn adeiladu injans ar gyfer Jaguar Land Rover Sigma Ford, ond ni fydd yn adeiladu yr un o'r rhain ar ôl 2018.

Ym mis Medi fe benderfynodd Ford leihau ei fuddsoddiad i'r ffatri i greu injan newydd Dragon - o £181m i £100m - gan haneru nifer yr injans fydd yn cael eu hadeiladu i 125,000.

Fe addawodd Llywodraeth Cymru £15m yn ddibynnol ar yr addewid y byddai 500 o swyddi'n cael eu diogelu.