Â鶹ԼÅÄ

Ford yn lleihau'r gwaith cynhyrchu ym Mhen-y-Bont

  • Cyhoeddwyd
Ffatri Ford

Mae Ford wedi cyhoeddi y byddan nhw'n lleihau eu buddsoddiad i'w ffatri ym Mhen-y-bont ac yn haneru'r gwaith cynhyrchu ar y safle.

Mae'r cwmni ceir wedi dweud na fydd hyn yn golygu lleihau nifer y gweithwyr ond mae undeb Unite wedi mynegi "pryder mawr" ynglŷn â dyfodol y ffatri.

Mae 1,850 o weithwyr yn gweithio yno.

Llynedd fe gyhoeddodd Ford eu bod yn buddsoddi £181 miliwn er mwyn adeiladu 250,000 o beiriannau ynni petrol newydd ym Mhen-y-bont.

Roedd disgwyl i'r gwaith cynhyrchu ddechrau yn 2018 ac roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi tua £15m er mwyn cefnogi'r cynllun.

Mae Ford nawr wedi dweud wrth y gweithwyr a'r undebau y bydd y buddsoddiad yn cael ei dorri i £100 miliwn gyda dim ond 125,000 o beiriannau yn cael eu hadeiladu.

'Hanfodol'

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru Ken Skates: "Mae'r diwydiant ceir yng Nghymru'n hanfodol i Gymru, gan gynhyrchu gwerthiant o tua £3.2bn ac yn cyflogi tua 18,000 o bobl. Mae'n un yr ydym yn ei gefnogi ac fe fyddwn yn parhau i'w gefnogi.

"Tra fy mod yn croesawu'r geiriau calonogol gan Ford nad oes disgwyl i'r newidiadau gweithredol sydd wedi eu cyhoeddi heddiw effeithio ar niferoedd y gweithwyr yn y cyfnod byr a chanolig, rwy'n cydnabod y pryderon sy'n bodoli ymysg gweithwyr a'r undebau yn y ffatri.

"Rydym yn deall y bydd hyn yn golygu cynhyrchu llai o injan Dragon i ddechrau, ond fe fydd gan safle Pen-y-bont y capasiti i gynyddu niferoedd pan mae'r galw bydeang yn cynyddu.

"Mae'n bwysig fod y cwmni yn gadael i'r gweithwyr wybod beth yw'r sefyllfa wrth i ni symud ymlaen. Mae'n werth nodi mai un rheswm am y gostyngiad yn y galw bydeang am injan Dragon yw'r cynnydd yn yr injan Eco-Boost sydd hefyd yn cael ei chynhyrchu ym Mhen-y-bont.

"Bydd Llywodraeth Cymru'n cydweithio'n agos gydag uwch reolwyr o Ford Europe, y tîm rheoli a'r undebau ym Mhen-y-bont i ddeall oblygiadau'r cyhoeddiad hwn ac fe fyddwn yn parhau i gefnogi'r gweithlu a'r cwmni cymaint ag sy'n bosib."