Â鶹ԼÅÄ

Gall gofal canser gwell 'achub cannoedd' yn ôl arbenigwr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd y meddyg teulu Cliff Jones fod cael diagnosis yn gallu bod yn anodd i rai cleifion

Fe allai 300 yn rhagor o gleifion canser oroesi bob blwyddyn petai gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn perfformio cystal â'r cyfartaledd Ewropeaidd, yn ôl arbenigwr.

Dywedodd un o feddygon canser mwyaf blaenllaw Cymru y gallai 600 yn rhagor o gleifion fyw bob blwyddyn petai cyfraddau goroesi yma cystal â'r gorau yn Ewrop.

Mae Dr Tom Crosby hefyd yn rhybuddio y gallai gwasanaethau "chwalu" heb "newidiadau pellgyrhaeddol" i gyflymu diagnosis o'r afiechyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod mwy o gleifion canser "yn cael eu trin o fewn y targed amser er gwaethaf mwy o alw ar wasanaethau".

Perygl o 'chwalu'

Mewn cyfweliad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru mae Dr Crosby, Cyfarwyddwr Meddygol Rhwydwaith Ganser Cymru, yn dweud bod gwasanaethau canser eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi.

"Rydyn ni yn gweld y niferoedd sydd yn cael eu cyfeirio at wasanaethau canser yn cynyddu'n gynt nag erioed, yn tyfu tua 10% y flwyddyn," meddai.

"Dyw'r gwasanaethau diagnostig, fel y maen nhw ar hyn o bryd, ddim yn mynd i allu cadw i fyny gyda'r newid hynny, hyd yn oed i gynnal ein perfformiad presennol o ran amseroedd aros canser gyda'r cynnydd yn y nifer sydd yn cael eu cyfeirio.

"Fe fydd y gwasanaethau yn chwalu oni bai ein bod ni'n gwneud rhywbeth yn wahanol."

Cau'r bwlch

Ond gyda disgwyl i'r nifer o unigolion a chanser ddyblu erbyn 2035, mae'n dweud y gallai fod yn fwyfwy anodd cau'r bwlch â gwledydd eraill.

"Rydyn ni'n gweld bod y siawns o oroesi'r afiechyd yma'n cynyddu ond mae'n cynyddu mewn gwledydd eraill, ar y cyfan am fod ganddyn nhw wasanaethau diagnostig gwell a gwell triniaethau ar gyfer y cleifion," meddai Dr Crosby.

"Ond os ydyn ni yn parhau i weithio yn yr un ffordd, gyda'r un adnoddau, yna mae'n debygol iawn y byddwn ni yn cael yr un canlyniadau.

"A dydyn ni ddim yn cau'r bwlch yna o ran canlyniadau mor gyflym ac y gallwn ni wneud."

Mae ymchwil wedi dangos bod y sgôr isaf o ran goroesi canser y coluddyn yn Ewrop yn Latfia, a'r sgôr uchaf yng Ngwlad yr Iâ.

Mae sawl astudiaeth yn dangos fod cyfraddau goroesi cyffredinol ym Mhrydain yn is na nifer o wledydd Ewrop, a bod gan Gymru rhai o'r cyfraddau gwaethaf ym Mhrydain.

Tra bod nifer o gleifion canser yn fodlon iawn â'u profiadau o ofal canser - cydnabyddiaeth yn ôl Dr Crosby o waith caled staff - mae'n dadlau nad yw newidiadau cam wrth gam yn ddigon.

Mae'n dweud bod yn angen cydnabod nad yw'r canlyniadau yn ddigon da, a chydweithio i'w gwella.

Mae hefyd eisiau gweld buddsoddiad mewn canolfannau diagnostig rhanbarthol a sefydlu cynhadledd ganser gydag arbenigwyr rhyngwladol.

Un sydd wedi diodde' o ganser y coluddyn yn ddiweddar yw Becky Thomas, nyrs o Ferthyr Tudful.

Aeth at ei meddyg teulu gan ddweud ei bod ddim yn teimlo'n iawn, ac fe roddodd y meddyg dabledi iddi wedi i brofion ddangos bod ganddi anemia a diffyg haearn.

Ond deufis yn ddiweddarach, doedd hi ddim yn teimlo'n well, ac aeth yn ôl at ei meddyg teulu.

"Beth o'n nhw'n dweud oedd cym' y tabledi am fis arall ac wedi 'ny fyddan ni'n dechrau meddwl'. I fi o'dd hwnna ddim yn ddigon cyflym."

Wedi iddi fynd at un o'i chyn-gydweithiwyr ym maes iechyd, cafodd ei chyfeirio i'r ysbyty am brofion pellach. Bryd hynny, cafodd ddiagnosis o ganser.

Bellach mae wedi gwella, ac yn dweud bod angen newid pethau i osgoi'r oedi cyn diagnosis.

"Mae'n rhaid iddyn nhw wrando ar y claf, beth mae'r claf yn ddweud a sut maen nhw'n teimlo," meddai.

"Chi'n gallu newid pethau ond mae trawsnewid pethau yn rhywbeth gwahanol eto. Mae'n rhaid i ni feddwl yn wahanol am y pethau ni'n gwneud pob dydd."

Disgrifiad,

Yn ôl Lowri Griffiths mae angen cysondeb o ran profiad y claf ar draws Cymru

Mae elusen ganser Macmillan yn dweud fod gwasanaethau yn ei chael hi'n anodd "cadw eu pennau uwchlaw'r dŵr", gan ychwanegu bod lleoliad y claf a'r math o ganser sydd ganddyn nhw'n effeithio profiadau cleifion.

"Beth sydd yn bwysig i ni ydy bod bob person, does dim ots pa ganser sydd ganddyn nhw, yn cael yr un driniaeth a'r un profiad," meddai Lowri Griffiths, Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi Macmillan yng Nghymru.

"Ond maen na wahaniaethau mewn gwahanol ganser, er enghraifft mae pobl sydd 'efo sarcoma neu bobl sydd 'efo canser yr ymennydd efallai'n cael profiad tipyn bach yn waeth na phobl er enghraifft 'efo canser y fron," meddai.

Yn ogystal â newid dulliau o weithio mae'r elusen yn galw am sicrhau bod "y pethau sylfaenol" - fel gwybodaeth glir am yr afiechyd a digon o gefnogaeth wrth gael triniaeth - yn gywir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i'r "gofal a chefnogaeth orau posib i bawb sy'n cael eu heffeithio gan ganser", ac y gallai ddod yn afiechyd mwy cyffredin wrth i'r boblogaeth heneiddio.

"Mae'r rhan fwyaf o gleifion canser yn cael eu trin o fewn y targed amser er bod mwy o alw ar wasanaethau," meddai.

"Llynedd fe welsom ni gynnydd o 40% o'i gymharu â phum mlynedd yn ôl yn nifer y cleifion oedd yn cael eu trin o fewn y targed amser o 62 diwrnod. Ond rydyn ni'n gwybod fod angen gwneud mwy i wella gwasanaethau.

"Mae ein Cronfa Triniaethau Newydd yn sicrhau bod modd cael y meddyginiaethau mwyaf diweddar, gan gynnwys meddyginiaethau canser, ac rydym yn ceisio sicrhau bod canser yn cael ei ganfod yn gynt gyda'n newidiadau i ofal cynradd, llwybrau ailgyfeirio o'r ysbyty, a chanolfannau diagnostig rhanbarthol."