Â鶹ԼÅÄ

'Diffyg ymwybyddiaeth' am symptomau canser yr ofari

  • Cyhoeddwyd
Canser yr ofariFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae elusen canser yr ofari yn dweud eu bod yn poeni am ddiffyg ymwybyddiaeth menywod yng Nghymru o symptomau'r afiechyd.

Yn ôl gwaith ymchwil gan Target Ovarian Canser, dyw pedair o bob pum dynes yng Nghymru ddim yn adnabod y symptomau sydd ynghlwm â'r salwch.

Mae 350 o fenywod yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser yr ofari pob blwyddyn, ac mae 250 yn marw o'r salwch.

Mae'r ystadegau wedi eu cynnwys mewn adroddiad fydd yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad yn y Cynulliad ddydd Mercher.

Diffyg ymwybyddiaeth

Daeth y gwaith ymchwil i'r casgliad mai dim ond un o bob pump o'r menywod a gafodd eu holi oedd yn gwybod mai un o brif symptomau canser yr ofari oedd bod y bol yn chwyddo.

Mae symptomau eraill yn cynnwys poen bol, anhawster bwyta neu deimlo'n llawn a theimlo'r angen i basio dŵr yn aml neu ar frys.

Fe ddaeth y gwaith ymchwil i'r casgliad fod 36% o fenywod Cymru'n ymweld â'u meddyg teulu dair gwaith neu fwy cyn cael eu cyfeirio am brofion.

Mae hynny'n golygu eu bod yn fwy tebygol o gael diagnosis hwyrach, gan wneud triniaeth yn fwy anodd.

Mae mwy o fenywod yn marw o'r canser hwn nag unrhyw ganser gynecolegol arall, ac mae'r elusen nawr yn galw am godi ymwybyddiaeth am y symptomau.

Dywedodd prif weithredwr Target Ovarian Canser, Annwen Jones: "Er ein bod wedi gweld gwelliannau yn y blynyddoedd diwethaf, gyda chanolfannau peilot, a galwadau am ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn y Cynulliad, mae angen gwneud mwy."