Â鶹ԼÅÄ

Profiad cadarnhaol i 93% o gleifion canser yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Canser

Mae arolwg newydd o gleifion canser yng Nghymru yn dangos bod 93% wedi cael profiad cadarnhaol yn ystod eu triniaeth.

Fel rhan o Arolwg o Brofiad Cleifion Canser yng Nghymru cafodd fwy na 6,700 o gleifion eu holi am eu profiadau.

Roedd yn dangos lefelau uchel o foddhad â gofal canser ymysg cleifion Cymru'n gyffredinol, ynghyd â gwelliannau o ran dyraniad gweithwyr allweddol a phrofiad cleifion canser yr ysgyfaint.

Fe gafodd yr arolwg ei gynnal ar ran Llywodraeth Cymru a Chymorth Canser Macmillan.

Roedd yr agweddau cadarnhaol yn cynnwys:

  • 93% o'r ymatebwyr yn rhoi sgôr o 7/10 neu uwch i'w profiad yn gyffredinol;

  • 90% o'r ymatebwyr yn dweud bod gweinyddiaeth gyffredinol eu gofal yn "dda" neu'n "dda iawn";

  • 86% o'r ymatebwyr yn dweud iddynt gael enw a manylion cyswllt gweithiwr allweddol.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Ond fe wnaeth yr arolwg hefyd dynnu sylw at feysydd gwannach, fel ansawdd yr wybodaeth, cynnig cynllun gofal ysgrifenedig a phrofiad mewn mathau penodol o ganser fel sarcoma a chanser yr ymennydd.

Gan groesawu'r arolwg, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Mae'r ffaith bod 93% o'r ymatebwyr wedi rhoi sgôr o saith neu fwy allan o ddeg am eu gofal yn brawf o ymrwymiad, medrusrwydd a chydymdeimlad y rhai sy'n darparu gofal canser.

"Mae hyn yn ardderchog, ac ni fyddai'n bosibl heb ansawdd ac ymrwymiad gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru.

"Er y byddai'n hawdd iawn canolbwyntio ar ganlyniadau cadarnhaol yr arolwg hwn yn unig - mae'n hanfodol i ni beidio ag anghofio'r meysydd lle gellid gwneud yn well

"Ni fyddwn yn gorffwys nes i bob un o'r materion hynny gael sylw."