Cyn-gyfarwyddwr S4C i gadeirio adolygiad o'r sianel?

Disgrifiad o'r llun, Mae Euryn Ogwen Williams yn gyn-gyfarwyddwr rhaglenni S4C
  • Awdur, Huw Thomas
  • Swydd, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae disgwyl mai cyn-gyfarwyddwr rhaglenni S4C fydd yn cadeirio adolygiad annibynnol o'r sianel.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru yn deall y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi fis nesaf mai Euryn Ogwen Williams fydd yn arwain yr adolygiad.

Doedd Mr Williams ddim am wneud sylw.

Ym mis Chwefror y llynedd cyhoeddodd y llywodraeth y bwriad i gynnal adolygiad eleni.

Ond mae'n debyg bod anawsterau wedi ymddangos wrth drio apwyntio person i arwain yr adolygiad, tra bod yr etholiad cyffredinol hefyd wedi achosi oedi i'r broses o benodi cadeirydd a phenderfynu'r cylch gorchwyl.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) bod y llywodraeth wedi "ymrwymo i gynnal adolygiad o gyfrifoldebau, llywodraethiant a chyllid S4C", ac y byddan nhw'n rhyddhau mwy o fanylion yn fuan.

'Dyfodol cynaliadwy'

Pan gafodd cynlluniau ar gyfer yr adolygiad eu cyhoeddi'r llynedd, dywedodd y llywodraeth mai'r bwriad oedd i S4C i "barhau i ddarparu gwasanaeth dosbarth cyntaf, ac i gael dyfodol cynaliadwy".

Ariannu, cylch gorchwyl a'r drefn o reoleiddio S4C fydd prif elfennau'r adolygiad, gan ganolbwyntio ar y ffordd y gallai'r sianel ateb anghenion y gynulleidfa Gymraeg yn y dyfodol.

Mae S4C yn derbyn £6.8m gan Lywodraeth y DU - cyllideb sydd wedi'i rhewi ers cyhoeddiad yr adolygiad, tra bod y Â鶹ԼÅÄ wedi ymrwymo i roi £74.5m bob blwyddyn nes mis Ebrill 2022.

Mae'r sianel hefyd yn derbyn swm cymharol isel o incwm masnachol.

Disgrifiad o'r llun, Mae Huw Jones yn gobeithio y bydd sicrwydd ariannol yn dilyn yr adolygiad annibynnol

Dywedodd cadeirydd y sianel, Huw Jones, ei fod yn gobeithio bydd sicrwydd ariannol yn dilyn yr adolygiad annibynnol.

"Plîs gawn ni edrych ar y cylch gorchwyl fel bod hi'n glir fod yna gytundeb y dylai S4C fod yn ddarparwr cynnwys cyfoes ar bob llwyfan, ddim jest yn ddarlledwr traddodiadol ar gyfer y set deledu yng nghornel y stafell," meddai.

"'Da ni eisiau cytundeb i hynny er mwyn teimlo rhyddid i fwrw ymlaen yn hyderus i'r cyfeiriad yna.

"A 'da ni wedyn angen cael gwybod, o ran sefydlogrwydd ariannol, fel bod ni ddim mewn sefyllfa lle mae hi'n bosib i'r cyllid gael ei dorri heb rybudd, a heb fod yna dadansoddiad a thrafodaeth gyhoeddus ynglŷn â beth ydy gwir angen cyllidol sianel fel S4C."

'Buddiannau'r gwylwyr'

Dywedodd bod ei feddwl yn agored i'r hyn bydd yr adolygiad yn ei argymell.

"Mae hi'n beth iach bod trafodaeth yn digwydd, bod cwestiynau yn cael eu codi," meddai.

"Dewch i ni fynd mewn i'r peth gyda'r hyder nad oes gennym ni ddim byd i'w guddio, dim byd i'w ofni, ac mai buddiannau'r gwasanaeth, buddiannau'r gwylwyr, sydd dan sylw fan hyn."

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru yn deall bod pobl eraill wedi derbyn gwahoddiad i gadeirio'r adolygiad, gan gynnwys un person wnaeth dderbyn y cynnig cyn newid eu meddwl.

Roedd yr etholiad cyffredinol ym mis Mai eleni wedi gohirio'r broses o apwyntio cadeirydd a phenderfynu ar gylch gorchwyl yr adolygiad.

'Siomedig iawn'

Mae aelod seneddol Plaid Cymru, Ben Lake, wedi galw am fwy o fanylion am yr adolygiad annibynnol.

"Fel arfer, gyda'r math yma o adolygiad, ry' ni'n aros am fisoedd ar gyfer y canlyniadau a'r casgliadau, nid i ddechrau'r peth, i benodi'r panel," meddai.

"Rydyn ni dal ddim yn siŵr pwy fydd yn bennaeth ar yr adolygiad, beth fydd eu remit nhw, mae fe'n siomedig iawn.

"Achos mae lot o'r materion yma, materion gobeithio fydda nhw'n llwyddo i ddod i ryw fath o gasgliad pendant arnyn nhw, yn bethau mae'n rhaid i ni ddelio â nhw ar fyrder.

"Felly mae'n siomedig iawn fod y llywodraeth yn llusgo eu traed ar hwn."

Disgrifiad o'r llun, Mae Ben Lake yn galw am fwy o fanylion am yr adolygiad annibynnol

Dywedodd Gill Hind o gwmni Enders Analysis, sy'n dadansoddi'r diwydiant darlledu, bod rhaid i S4C ganolbwyntio ar yr heriau sy'n wynebu pob darlledwr cyhoeddus.

"Rhaid rhoi'r flaenoriaeth i'r sianel deledu, ond mae'n rhaid ehangu hefyd," meddai.

"Mae'n rhaid i S4C sicrhau bod ei chynnwys yn cyrraedd pob teclyn, ac mae'n rhaid gwneud rhaglenni gwahanol hefyd.

"Dydy pobl ifanc ddim yn eistedd lawr i wylio dwy awr o raglenni bob nos - maen nhw wedi dod i'r arfer a derbyn cynnwys mewn gwahanol ffyrdd.

"Felly dylai S4C apelio i bob oedran, ac mae'n rhaid iddyn nhw feddwl: 'Pa fath o gynnwys ydyn nhw eisiau, a beth fyddai'r platfform orau i ddosbarthu hynny?'."

Y Gymraeg yn gymorth

Dywedodd Ms Hind y dylai'r ffaith mai yn Gymraeg mae rhaglenni S4C fod o gymorth i'r sianel wrth drio denu sylw'r gynulleidfa.

"Fwy na thebyg fydd hynny o fudd i'r sianel, oherwydd does 'na ddim nifer o lefydd eraill i fynd atynt er mwyn gwylio rhaglenni Cymraeg," meddai.

"Mae pobl yn 'nabod S4C felly os ydyn nhw eisiau rhaglenni Cymraeg maen nhw'n debygol o droi at y sianel.

"Felly mewn nifer o ffyrdd mae'n fantais i S4C, yn yr un modd os mai ITV oedd dan sylw yna rydych chi'n un o filiynau o wahanol gwmnïau sy'n gallu darparu'r cynnwys hynny.

"Ond does 'na ddim llawer o gwmnïau all ddarparu'r un cynnwys ag S4C."