Â鶹ԼÅÄ

Adolygiad o gyllid S4C wedi cael ei ohirio

  • Cyhoeddwyd
S4C

Mae adolygiad o gyllid S4C wedi cael ei ohirio, yn ôl un o weinidogion Swyddfa Cymru.

, ond does dim cadeirydd wedi cael ei benodi eto.

Dywedodd y gweinidog Guto Bebb wrth bwyllgor seneddol ddydd Llun mai'r nod nawr yw i gwblhau'r adolygiad erbyn diwedd 2017.

Daw hyn wedi i brif weithredwr S4C, Ian Jones, .

Diwedd 2017

Wrth ymateb i gwestiwn yng nghyfarfod y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan, dywedodd Mr Bebb bod yr adolygiad "wedi ei ohirio".

Nododd ei fod yn disgwyl y bydd cadeirydd yn cael ei benodi "erbyn diwedd y flwyddyn ariannol", ac y dylai'r adolygiad gael ei gwblhau erbyn diwedd 2017.

Ychwanegodd: "O ran ffynonellau arian, roedd 'na addewidion ynglŷn ag amddiffyn cyllid S4C am flwyddyn, ond gan fod yr adolygiad wedi'i ddal nôl mae 'na gwestiynau os fydd y cyllid yn cael ei amddiffyn am flwyddyn arall, ac mae'r materion hynny yn cael eu trafod ar hyn o bryd."

Dywedodd mai "cyfrifoldebau'r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a'r pwysau ar yr adran oherwydd y broses o adolygu siarter y Â鶹ԼÅÄ" yw'r rheswm am y gohiriad.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran S4C nad oedden nhw am wneud sylw ar y mater.