Â鶹ԼÅÄ

Llai yn gwylio S4C ar deledu ac ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer

  • Cyhoeddwyd
S4CFfynhonnell y llun, S4C

Mae ymdrechion S4C i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn llwyddo, meddai'r sianel, wrth i'w adroddiad blynyddol gael ei gyhoeddi.

Daw hynny er gwaethaf gostyngiad yng nghyfanswm y nifer sy'n gwylio rhaglenni ar wefan y sianel neu'r Â鶹ԼÅÄ iPlayer.

Yn ôl yr adroddiad, mae nifer y sesiynau gwylio ar S4C Arlein a'r iPlayer wedi gostwng i 7.6 miliwn yn 2016/17.

8.4 miliwn oedd wedi gwylio yn 2015/16.

'Codi cwestiynau'

Roedd gostyngiad yn nifer y gwylwyr i'r sianel ledled y DU i 9.1 miliwn, o'i gymharu â 9.9 miliwn yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Ond roedd S4C wedi llwyddo i ddenu 18 miliwn o sesiynau gwylio i gynnwys y sianel ar y cyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Twitter a YouTube. Does dim data cyfatebol ar gyfer 2015/16.

Wrth ysgrifennu yn yr adroddiad, dywedodd y prif weithredwr Ian Jones fod S4C wedi "pasio" rhai o'r canlyniadau gorau gafodd eu nodi llynedd, ond roedd angen dod o hyd i esboniad am y gostyngiad yn y gwylwyr ar wefannau S4C a'r Â鶹ԼÅÄ.

Ysgrifennodd Ian Jones: "Mae 'na un mesurydd sydd yn codi cwestiynau, ac yn galw am ragor o ddadansoddi - sef y cwymp yn y niferoedd sy'n gwylio cynnwys S4C ar y Â鶹ԼÅÄ iPlayer.

"Mi fydd angen i waith barhau ar hynny, ond mae mantais ein presenoldeb ar yr iPlayer yn glir o hyd."

Disgrifiad,

Dywedodd cadeirydd S4C, Huw Jones bod yr adroddiad blynyddol yn un "calonogol"

Mwy o ailddarlledu

Roedd cynnydd yn nifer yr ailddarllediadau ar S4C, gyda 63% o'r amserlen yn cyfateb i raglenni sydd wedi'u dangos yn barod.

Mae'r ffigwr yma yn uwch na'r 57% o ailddarllediadau gafodd ei gofrestru yn 2015/16 - ffigwr roedd Ian Jones wedi'i feirniadu llynedd .

Dyw adolygiad annibynnol o waith S4C ddim wedi cychwyn eto, a does neb eto wedi'i benodi i arwain yr adolygiad, oedd i fod i ddechrau derbyn tystiolaeth yn gynnar yn 2017.

Fis Hydref bydd Ian Jones yn gadael ei swydd, .

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/Huw Evans Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai o'r rhaglenni mwyaf poblogaidd yn cynnwys Y Gwyll, uchafbwyntiau'r Eisteddfod, a gemau pêl-droed Cymru

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd cadeirydd y sianel, Huw Jones: "Dwi'n meddwl bod 'na arwyddion da iawn yn yr adroddiad yma ynglŷn â'n hymateb ni i un o'r prif heriau sydd yn wynebu pob darlledwr, sef sut mae darlledu gwasanaeth cyflawn, cyfoethog, traddodiadol, ac ar yr un pryd, mynd i'r afael â'r heriau o ddarparu yr hyn mae pobl ifanc yn gynyddol ei angen, sef deunydd ar bob llwyfan newydd sydd ar gael.

"Be 'da ni'n ei weld yn yr adroddiad yma ydy cynnydd trawiadol yn y defnydd sy'n cael ei wneud o bethau fel Facebook Live, YouTube a phlatfformau digidol eraill.

"Ar yr un pryd, mae 'na gynnydd wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn wythnosol."