Â鶹ԼÅÄ

Betsi Cadwaladr: Mesurau arbennig

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr

Mae cyfarfod rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygaeth Iechyd Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi penderfynu cymryd camau pellach yn erbyn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn dilyn cyhoeddi adroddiad damniol am ward iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd.

Roedd yr adroddiad yn hynod feirniadol o'r "camdriniaeth sefydliadol" oedd yn bodoli ar ward Tawel Fan.

Fe fydd y bwrdd iechyd yn awr yn cael eu gosod dan fesurau arbennig. Gall hyn olygu ystod eang o bethau, ond dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddan nhw'n cyhoeddi'n union pa fesurau fydd yn weithredol tan fore Mawrth pan y mae disgwyl datganiad pellach.

Fe fydd yn golygu bod y llywodraeth yn chwarae mwy o rôl yn rhedeg y bwrdd a gallai'r bwrdd gael eu hatal rhag gofalu am rai swyddogaethau dros dro.

Wrth gyfeirio at y sgandal 'Tawel Fan' dywedodd Donna Ockenden, awdur yr adroddiad, ar raglen Good Morning Wales ar Radio Wales fore Llun: "Dwi wedi bod yn ymwneud â'r Gwasanaeth Iechyd ers 30 mlynedd a hwn yw un o'r achosion gwaethaf."

Ar raglen Newyddion 9, dywedodd y prif weinidog Carwyn Jones: "Rwy'n credu bod pobl gogledd Cymru a'r llywodraeth wedi cael digon.

"Maen nhw {y bwrdd iechyd} wedi cael digon o gyfle i adennill ymddiriedaeth pobl y gogledd felly roedd rhaid i ni gymryd y cam yma fel bod y bwrdd yn gallu cael ei ailadeiladu.

"Fe ddigwyddodd Tawel Fan ddwy flynedd yn ôl ond doedden ni ddim yn gweld y pictiwr llawn... nawr ei fod hynny'n glir ac wrth gwrs mae gyda ni broblemau gofal babanod, oriau gweithio GPs, beth sy'n amlwg yw bod y bwrdd wedi colli cefnogaeth y bobl leol a gallwn ni ddim gadael i hynny ddigwydd rhagor."

'Gwasanaethau'n ôl yr arfer'

Brynhawn Llun wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd y gweinidog iechyd Mark Drakeford:

"Mae'n adlewyrchu pryderon difrifol sydd heb eu datrys ynghylch arwain, llywodraethu a chynnydd yn y Bwrdd Iechyd dros gyfnod. Mae'r meysydd o bryder wedi cael eu hasesu mewn ffordd drylwyr a chytbwys, a bydd hyn yn sail i gamau gweithredu'r mesurau arbennig.

"Tra bydd y sefydliad o dan fesurau arbennig, hoffwn roi sicrwydd i'r cleifion a'r cymunedau y mae'r Bwrdd Iechyd yn eu gwasanaethu a'r staff sy'n gweithio iddo y bydd gwasanaethau a gweithgareddau bob dydd yn parhau yn ôl yr arfer."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd uwch-reolwyr eu beirniadu am beidio ag ymateb i rybuddion blaenorol am ward Tawel Fan

Ddydd Sul, fe ddywedodd Comisiynydd Pobl HÅ·n Cymru Sarah Rochira bod angen erlyn staff sy'n esgeuluso cleifion yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad.

'Cydweithio'n llawn'

Mewn llythyr at y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd Dr Peter Higson ei fod yn "cydnabod y difrifoldeb a'r angen am ymateb sydyn i adfer y sefyllfa."

Ychwanegodd y byddai'n "sicrhau fod y Bwrdd Iechyd a'r swyddogion yn cydweithio'n llawn gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol er lles y cleifion a'r cyhoedd yng ngogledd Cymru."

Ni fydd y bwrdd iechyd yn gwneud sylw pellach ar y mater am y tro.

Mae AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llyr Gruffydd, wedi dweud bod "methiant mewn arweinyddiaeth wleidyddol" yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ers rhai blynyddoedd.

Dywedodd fod problemau'r bwrdd yn deillio o "fethiant i wrando ar arbenigwyr clinigol a'r cyhoedd".

Ychwanegodd: "Dydy ymddiheuriadau yn golygu dim heb newid cyfeiriad a dydyn ni ddim yn gweld hyn gyda'r bwrdd iechyd yma."

'Cam cyntaf'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Darren Millar AC, ei fod yn "croesawu'r penderfyniad", sy'n rhywbeth y mae wedi galw amdano "ers i broblemau rheoli gael eu hadnabod yn 2013".

"Rhoi'r bwrdd iechyd dan fesurau arbennig yw'r cam cyntaf i droi'r awdurdod i mewn i roddwr gofal iechyd o'r radd flaenaf, lle mae diogelwch y claf yn flaenoriaeth."

Dywedodd Aled Roberts AC, o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Mae'r bwrdd iechyd angen help o ddifri', dyna pam bod fy mhlaid i wedi dadlau dros gyflwyno Mesurau Arbennig.

"Rydyn ni angen bwrdd iechyd y gall cyhoedd gogledd Cymru ymddiried ynddo. Nid dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd. Mae angen newidiadau ar frys."

"Rydyn ni ar dir anghyfarwydd nawr. Bydd angen i'r Gweinidog Iechyd egluro'n syth beth mae'r penderfyniad yn golygu'n ymarferol a beth fydd yn ei olygu i gleifion."