Â鶹ԼÅÄ

Tawel Fan: Cyfarfod yn trafod Bwrdd Iechyd

  • Cyhoeddwyd
Tawel Fan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd uwch-reolwyr eu beirniadu am beidio ag ymateb i rybuddion blaenorol am ward Tawel Fan

Bydd cyfarfod ddydd Llun rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygaeth Iechyd Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ystyried a oes angen cymryd camau pellach yn erbyn y Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn dilyn cyhoeddi adroddiad damniol am ward iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd.

Roedd yr adroddiad yn hynod feirniadol o'r "camdriniaeth sefydliadol" oedd yn bodoli ar ward Tawel Fan.

Roedd teuluoedd wedi adrodd bod cleifion ar y ward wedi cael eu trin fel anifeiliaid mewn sw, cyn i'r ward gau ym mis Rhagfyr 2013.

Dywedodd Donna Ockenden, ysgrifennodd yr adroddiad, wrth raglen Good Morning Wales fore Llun: "Dwi wedi bod yn ymwneud â'r Gwasanaeth Iechyd ers 30 mlynedd a hwn yw un o'r achosion gwaethaf."

Ddydd Sul, fe ddywedodd Comisiynydd Pobl HÅ·n Cymru Sarah Rochira bod angen erlyn pobl sydd yn esgeuluso cleifion, yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad.

Dywedodd Ms Rochira bod manylion yr adroddiad wedi bod yn "erchyll", a bod y driniaeth i gleifion yn "israddol".

'Diswyddo'

Ar raglen Â鶹ԼÅÄ Sunday Politics Wales ddydd Sul, dywedodd AC Llafur dros Ddyffryn Clwyd, Ann Jones, y dylai prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yr Athro Trevor Purt ddiswyddo.

Dywedodd Ms Jones bod ymddiriedaeth y cyhoedd yn y bwrdd iechyd ar ei lefel isaf, gan ychwanegu ei bod yn hyderus bod gweinidogion Llywodraeth Cymru "yn deall mai newidiadau yn arweinyddiaeth y bwrdd iechyd allai fod y ffordd ymlaen".

Mae'r Athro Purt wedi ymddiheuro ar ran y bwrdd, gan ddweud ei fod "yn ddrwg iawn eu bod wedi gadael y cleifion mwyaf bregus a'u teuluoedd i lawr mor wael."

Mae cwynion yn erbyn deg aelod o staff wedi cael eu cyfeirio at gyrff proffesiynol.

Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ymchwilio i honiadau o gamdriniaeth ond fe benderfynodd y llu beidio â chymryd camau pellach.