Â鶹ԼÅÄ

Angen erlyn staff sy'n esgeuluso cleifion

  • Cyhoeddwyd
Sarah Rochira
Disgrifiad o’r llun,

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl HÅ·n Cymru

Mae Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl HÅ·n Cymru, wedi ychwanegu ei llais at alwadau i erlyn pobl sydd yn esgeuluso cleifion, yn dilyn cyhoeddi adroddiad beirniadol am ward iechyd meddwl yn Sir Ddinbych.

Roedd yr adroddiad yn hynod feirniadol o'r "camdriniaeth sefydliadol" oedd yn bodoli yn ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae teuluoedd wedi dweud fod cleifion ar y ward wedi cael eu trin fel anifeiliaid mewn sŵ, cyn i'r ward gau ym mis Rhagfyr 2013.

Dywedodd Sarah Rochira fod manylion yr adroddiad wedi bod yn "erchyll", a bod y driniaeth i gleifion yn "israddol".

"Cwbl frawychus"

Mae cwynion yn erbyn deg aelod o staff wedi cael eu cyfeirio at gyrff proffesiynol. Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ymchwilio i honiadau o gamdriniaeth ond fe benderfynodd y llu beidio â chymryd camau pellach.

Wrth siarad ar raglen Â鶹ԼÅÄ Sunday Politics Wales, dywedodd Ms Rochira y dylid cryfhau'r gyfraith droseddol fel bod modd galw'r rhai sydd yn trin cleifion hÅ·n "mewn ffordd cwbl warthus" i gyfrif am eu gweithredoedd.

Dywedodd fod Tawel Fan yn "un o lawer o enghreifftiau ble mae'r gofal wedi bod yn gwbl annerbyniol ond eto nid yw'n cael ei ystyried yn droseddol".

Fe wnaeth y comisiynydd alw ar fyrddau iechyd i wneud datganiadau cyhoeddus am safon y gofal oedd yn cael ei ddarparu gan y gwasanaethau iechyd lleol.

"Fe fyddwn i'n awgrymu nawr fod byrddau angen rhyddhau datganiadau i dawelu meddwl y cyhoedd gan ddweud eu bod yn gwybod pa mor dda yw eu gofal ac nid oes angen i bobl boeni ynglŷn â'u gofal eu hunain", meddai Ms Rochira.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd uwch-reolwyr eu barnu am beidio ag ymateb i rybuddion blaenorol am ward Tawel Fan

Wrth siarad ar yr un rhaglen fe ddywedodd Aelod Llafur y Cynulliad dros Ddyffryn Clwyd Ann Jones y dylid diswyddo prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yr Athro Trevor Purt.

Dywedodd yr AC fod ymddiriedaeth y cyhoedd yn y bwrdd iechyd ar ei lefel isaf, gan ychwanegu ei bod yn hyderus fod gweinidogion Llywodraeth Cymru "yn deall mai newidiadau yn arweinyddiaeth y bwrdd iechyd allai fod y ffordd ymlaen."

Mae Mr Purt wedi ymddiheuro'n barod ar ran y bwrdd, gan ddweud ei fod "yn ddrwg iawn eu bod wedi gadael y cleifion mwyaf bregus a'u teuluoedd i lawr mor wael."

Bydd cyfarfod ddydd Llun rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygaeth Iechyd Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ystyried os oes angen cymryd camau yn erbyn y bwrdd.

Mae rhaglen Sunday Politics Wales ar Â鶹ԼÅÄ One Wales am 11:00 ar ddydd Sul, 7 Mehefin.