Â鶹ԼÅÄ

Athrawon cyflenwi: Diffyg cysondeb?

  • Cyhoeddwyd
athrawon llanw

Mae un o undebau dysgu mwyaf Cymru wedi codi pryderon y gallai diffyg hyfforddiant ar gyfer athrawon cyflenwi arwain at ddiffyg cysondeb o ran safonau dysgu.

Mae NUT Cymru yn dweud nad oes digon o ddatblygiad proffesiynol ar gael i athrawon cyflenwi.

Yn ôl llywodraeth Cymru, maen nhw'n datblygu dulliau i athrawon "ddatblygu eu harfer eu hunain".

Mae tua 10% o wersi ysgol yng Nghymru yng ngofal athrawon cyflenwi.

Os nad ydy'r athrawon hynny yn derbyn yr hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw, mi allai hynny fod yn broblem, yn ôl Owen Hathway o undeb yr athrawon, NUT Cymru:

"Os 'dy ni'n gweld sefyllfa ble ma' athrawon sy'n gweithio mewn ysgol yn barhaol yn cael mynediad at ddatblygiad proffesiynol ar gyfer y polisïau newydd, a dyw'r un mynediad ddim ar gael i athrawon cyflenwi - 'dy ni'n mynd i weld anghysondeb o ran sut 'dy ni'n dysgu'n plant ni.

"Mae hwnna'n gonsýrn, yn enwedig wrth feddwl am y newidiadau sy'n dod i mewn yn y cwricwlwm."

Disgrifiad,

Adroddiad Arwyn Jones, Gohebydd Addysg

Gweld gwerth

Athrawes gyflenwi oedd Carolyn Rahman, wnaeth ddechrau asiantaeth ei hun. Mae hi'n gweld gwerth cynnig hyfforddiant am ddim i'w gweithlu:

"Mae'n bwysig iawn â dweud y gwir, fod athrawon yn teimlo eu bod nhw'n rhan o dîm, a bod eu gwaith nhw'n cael ei werthfawrogi, a'u bod nhw hefyd yn deall be' sy'n mynd ymlaen yn yr adran addysg.

"Mae'n rhoi mwy o hyder i'r athrawon, ac i'r ysgolion yn ein cwmni ni wedyn."

Yn amlach na pheidio, tydi asiantaethau cyflenwi ddim yn rhoi hyfforddiant.

O ganlyniad mae yna bryder am safon y gwersi.

Ond ydy hynny'n deg?

'Dylen nhw baratoi'

Nac ydy, yn ôl Catherine Davies, sy'n dechrau ar ei gyrfa fel athrawes gyflenwi:

"Chi'n troi lan ar y dydd a dyw pethau heb ga'l eu gadael. Ma'n rhaid i'r athrawon er'ill ystyried 'falle y dylen nhw baratoi ar gyfer yr athrawon cyflenwi sy'n dod mewn. Achos os o's gwaith 'na'n barod - ma'r swydd yn ddigon rhwydd wedyn - ma' fe jysd yn fater o ddilyn y came' hynny.

"Os nad yw pethe' yn eu lle, wel, 'dyw safon y dysgu ddim yn mynd i fod cystal oherwydd hynny."

Yn ôl arolwg diweddar, mae'r mwyafrif helaeth o ddisgyblion yn teimlo eu bod yn dysgu llai gydag athrawon cyflenwi.

Ond mae'r pwysau yn fwy, yn ôl Yasmine Jones:

"'Dw i yn meddwl fod ein swydd ni fel athrawon cyflenwi lot yn galetach, mewn ffordd, na'r athrawon llawn amser, achos 'ni'n gorfod mynd i mewn, 'ni'n gorfod edrych ar be' sydd i 'neud, edrych ar y syllabus, ac wedyn meddwl 'reit, 'dw i heb gwrdd â'r plant hyn o'r blaen'.

"Mae'n lot i'w wneud ar yr un pryd - dod i 'nabod y plant, adeiladu perthynas gyda'r plant, meddwl pa ddulliau dysgu sy'n well i ba fath o blant."

'Hyfforddiant cyson'

Mae Pwyllgor Addysg y Cynulliad yn ymchwilio i'r defnydd o athrawon cyflenwi.

Yn ddiweddar bu Meilyr Rowlands o Estyn yn rhoi tystiolaeth:

"Hyd yn oed os oes gennych chi arbenigwr pwnc, er enghraifft, oni bai eu bod nhw wedi cael hyfforddiant rheolaidd, cyson, fydden nhw ddim yn gwybod am y fframwaith llythrennedd a rhifedd, er enghraifft.

"Mae'r disgwyliadau ar addysg ac ar athrawon mor uchel nawr, allwn ni ddim fforddio peidio rhoi hyfforddiant rheolaidd i athrawon llanw."

Fe fydd Mr Rowlands yn dechrau ar ei waith fel prif arolygydd ysgolion ym mis Mai.

Dywedodd llywodraeth Cymru fod penaethiaid angen sicrhau fod athrawon cyflenwi wedi'u cymhwyso'n iawn ac wedi'u cofrestru.

"Wrth i ni gyflwyno'r Cytundeb Newydd ar gyfer y gweithlu addysg byddwn yn datblygu dulliau newydd i'r holl athrawon, gan gynnwys athrawon cyflenwi, adlewyrchu ar a datblygu eu harfer eu hunain," meddai llefarydd.