Â鶹ԼÅÄ

Ymestyn grantiau i ddarpar athrawon yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Athro mewn dosbarth

Mae'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi cyhoeddi y bydd graddedigion yn medru cael hyd at £20,000 i hyfforddi i fod yn athrawon uwchradd mewn pynciau blaenoriaeth uchel yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Mae'r cymhelliad ariannol, sydd eisoes yn bodoli mewn rhai pynciau, yn rhan o ymgais Llywodraeth Cymru i wella safonau addysg ar draws Cymru, ond mae Cymraeg bellach wedi ei ychwanegu fel pwnc 'blaenoriaeth uchel'.

Cyhoeddodd Mr Lewis y bydd myfyrwyr sy'n ennill gradd dosbarth cyntaf yn gallu hawlio £20,000 i astudio i ddysgu Cymraeg, Mathemateg, Ffiseg a Chemeg mewn ysgolion uwchradd ym mlwyddyn academaidd 2015/16.

I fyfyrwyr sy'n cael gradd 2.1, bydd modd hawlio £10,000, gyda £6,000 ar gael i'r rhai sy'n cael gradd 2.2.

Pynciau eraill

I raddedigion sydd am ddysgu pynciau eraill, mae'r arian sydd ar gael yn is gan ddibynnu ar y pwnc. I fyfyrwyr sydd am ddysgu ieithoedd modern a chyfrifiadureg fe fydd £15,000 ar gael i'r rhai sydd â gradd dosbarth cyntaf, a £6,000 i'r rhai sydd â gradd 2.1.

Fe fydd myfyrwyr sy'n cael gradd dosbarth cyntaf ac sydd am ddysgu pob pwnc uwchradd arall yn gallu gwneud cais am grant o £3,000, ac fe fydd pawb sy'n hyfforddi i fod yn athrawon cynradd yn derbyn £3,000.

Yn ychwanegol i hyn, bydd graddedigion dosbarth cyntaf sydd am fod yn athrawon cynradd sy'n arbenigo mewn Mathemateg, Cymraeg, Saesneg, Ffiseg a Chemeg yn gallu gofyn am £3,000 yn ychwanegol.

Wrth gyhoeddi'r mesurau, dywedodd y gweinidog Huw Lewis:

"Fel rhan o'r gwaith i wella safonau addysg yng Nghymru mae'n hanfodol ein bod yn denu myfyrwyr ymroddgar, talentog o safon uchel i'r proffesiwn.

"Mae'r cymelliadau ariannol yma wedi eu creu er mwyn gwella safon y myfyrwyr sy'n dewis mynd i ddysgu, ac yn arbennig i ddenu'r graddedigion mwyaf talentog gyda gwybodaeth arbenigol am bynciau sy'n flaenoriaeth i ni er mwyn dilyn gyrfa ym myd addysg.

"Yn y pen draw y nod yw darparu'r addysg orau sy'n bosib i'n haddysgwyr, ac rwy'n hyderus y bydd y cymelliadau ariannol yma'n parhau i gryfhau safon hyfforddiant athrawon yng Nghymru."