Â鶹ԼÅÄ

Hyfforddiant i athrawon yng Nghymru yn 'yn anniben', medd Huw Lewis

  • Cyhoeddwyd
Classroom scene

Mae'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis yn dweud ei fod am weld "trefn" yn y system hyfforddi athrawon yng Nghymru.

Fe ddywedodd wrth raglen Sunday Politics y Â鶹ԼÅÄ fod angen i athrawon "dderbyn yr her" wrth i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol newid.

Ychwanegodd Mr Lewis y bydd y TGAU Cymru'n unig - sydd ar y gweill y flwyddyn nesa' - yn "gadarn" a "heriol".

Ers mis Medi, mae'n rhaid i ysgolion egluro sut mae'n nhw'n cyrraedd anghenion datblygiad proffesiynol eu staff.

Mae'n rhan o "fargen newydd" i hyfforddi athrawon - gafodd ei lansio yn gynharach eleni.

Fe ddywedodd Mr Lewis: "Yn aml, mae'n anodd i athro mewn awyrgylch ysgol brysur allu llywio eu gyrfa drwy ddryswch nifer y cyrsiau sydd ar gael.

"Mae'n anodd gwybod lle i droi os ydych chi'n anelu at gael eich dyrchafu yn bennaeth adran, er enghraifft.

"Dw i eisiau rhoi trefn ar yr anibendod 'na, a gweithio gyda'r arbenigwyr i wneud yn siwr fod gennym ni lwybr gyrfa mae athrawon yn ei ddeall, a sydd ar gael i bob athro."