Â鶹ԼÅÄ

'Angen gwersi gorfodol ar berthnasau iach'

  • Cyhoeddwyd
Christine Chapman
Disgrifiad o’r llun,

Mae Christine Chapman wedi dweud dylai plant ysgol dderbyn gwersi ynglŷn â beth yw perthynas iach, a hynny er mwyn newid agweddau tuag at drais yn erbyn menywod.

Mae cadeirydd un o bwyllgorau'r cynulliad wedi dweud dylai plant ysgol dderbyn gwersi ynglŷn â beth yw perthynas iach, a hynny er mwyn newid agweddau tuag at drais yn erbyn menywod.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i gynlluniau am wersi gorfodol ar berthnasau iach.

Ond mae Christine Chapman AC, cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau trawsbleidiol, wedi beirniadu'r penderfyniad.

Mae adroddiad gan y pwyllgor wedi galw'r penderfyniad hwnnw "yn y diffyg mwyaf sylweddol" ym Mil y llywodraeth.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Sunday Politics Wales y Â鶹ԼÅÄ, mae Ms Chapman wedi ailadrodd ei galwad am newid yn y gyfraith i wahardd rhieni rhag taro eu plant.

'Tasg anodd'

Pan ofynnwyd i Ms Chapman a oedd achos Ched Evans yn dangos bod angen dysgu plant am faterion megis trais yn y cartref a chydsynio, dywedodd: "Rydym yn siarad am y materion yma, ond mae llawer o waith eto i'w wneud i fynd i'r afael â'r her yn y maes yma."

Dywedodd bod y drafodaeth am yr achos wedi "rhoi diffyg ystyriaeth i beth ddigwyddodd i'r ferch."

Ychwanegodd: "Gallwn ni basio deddfau, ond heb fynd i'r afael â'r materion ar lefel ddyfnach, mae hi'n mynd i fod yn dasg anodd."

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu gwneud gwersi ar berthnasau iach yn orfodol mewn ysgolion, a hynny drwy'r Bil Trais ar sail Rhywedd, Trais Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru).

Cafodd y syniad ei roi i'r neilltu, gyda gweinidogion yn dweud y byddai, yn hytrach, yn cael ei ystyried gan adolygiad o'r maes llafur.

Ond mae Ms Chapman yn dweud "bod angen rhywbeth mwy sylfaenol".

Dywedodd: "Heb hwn, mi fydd hi'n anodd iawn mynd i'r afael ag agweddau tuag at drais yn erbyn menywod, a'r materion yn ymwneud ag hynny.

"Felly rydym ni'n credu bod hyn yn eithaf sylfaenol."

Angen cyfeirio at fenywod

Mae am beidio â rhoi digon o bwyslais ar drais yn erbyn menywod yn benodol.

Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, wedi dweud y bydd angen i awdurdodau ystyried trais yn erbyn merched a dynion.

Ond mae'r pwyllgor yn dweud nad ydi o wedi mynd yn ddigon pell, gan ddweud y dylai'r Bil "gyfeirio ar Drais yn erbyn Menywod, yn hytrach na Thrais ar sail Rhywedd."

Ni lwyddodd aelodau'r pwyllgor i ddod i gytundeb os dylai'r Bil newid y gyfraith i wahardd taro plant.

Mae Ms Chapman wedi cefnogi gwaharddiad o'r fath ers peth amser, ac roedd yn un o bedwar aelod o'r pwyllgor oedd am gael gwared ar yr amddiffyniad cyfreithiol o gosb resymol i unrhyw un sy'n wynebu cyhuddiad o daro plentyn.

Roedd chwe aelod arall y pwyllgor yn anghytuno.