Â鶹ԼÅÄ

Llywodraeth wedi 'camarwain' AC Llafur

  • Cyhoeddwyd
Ch Chapman

Mae Aelod Cynulliad Llafur wedi dweud wrth Newyddion 9 ei bod hi wedi ei "chamarwain" gan Lywodraeth Cymru ynglÅ·n ag addewidion i wahardd taro plant.

Dywedodd aelod Cwm Cynon, Christine Chapman, ei bod wedi pleidleisio gyda'r llywodraeth ar ôl derbyn sicrwydd y byddai deddf yn cael ei chyflwyno cyn etholiad 2016.

Fe bleidleisiodd hi o blaid y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mawrth, gan feddwl y byddai gwaharddiad yn cael ei ychwanegu i fil arall.

"Rydw i yn [teimlo wedi fy nhwyllo] ac yn rhwystredig iawn," meddai, "oherwydd fe ddywedais i y byddwn i'n cael y bil drwodd ond ar y ddealltwriaeth y byddai cyfle eto, hynny yw y Bil Trais Domestig.

Pleidlais rydd

"Dydw i ddim eisiau colli cyfle allai fod ar gael."

Erbyn hyn, mae'n galw am bleidlais rydd ar y mater.

Mae Llywodraeth Cymru, sydd wedi cadarnhau na fydd gwaharddiad yn cael ei ychwanegu i'r Bil Trais Domestig, wedi dweud eu bod eisiau sefydlu pwyllgor.

Dywedodd llefarydd: "Rydym eisiau gweld cynnydd ac ar hyn o bryd yn anelu at sefydlu pwyllgor trawsbleidiol er mwyn sefydlu sut y gall Llywodraeth Cymru ddechrau deddfu ar hyn yn y dyfodol.

"Mi fyddwn yn parhau i geisio sicrhau newid ... drwy hybu opsiynau disgyblu amgen yn hytrach na chosb gorfforol."

'Wedi siomi'

Disgrifiad o’r llun,

Ms Thomas oedd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol rhwng 2007 a 2014

Mae Gwenda Thomas, yr AC Llafur oedd yn gyfrifol am y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi dweud bod angen deddfu.

Dywedodd y byddai "wedi siomi" os na fydd y gyfraith yn newid cyn diwedd tymor y Cynulliad presennol.

"Rydw i'n credu'n llwyr mewn hawliau plant," ychwanegodd. "Maen nhw'n unigolion gyda hawliau, yn union fel ni."

Mae AC Cwm Cynon yn bwriadu ceisio cefnogaeth er mwyn newid y Bil Trais Domestig drwy gynnwys gwelliant fyddai'n dileu'r defnydd o "gerydd rhesymol" fel amddiffyniad mewn achosion llys.