Â鶹ԼÅÄ

'Bil ddim yn gwneud digon i ferched'

  • Cyhoeddwyd
Merch a dwylo

Mae pryderon wedi cael eu codi na fydd deddf newydd i fynd i'r afael a cham-drin yn y cartref yn gwneud digon i ddiogelu menywod rhag trais.

Mi fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi fersiwn ddrafft y bil yr wythnos hon gyda'r bwriad o wella gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr trais.

Dyw cyfraith droseddol ddim wedi ei ddatganoli ond mae'r Cynulliad o'r farn fod ganddynt y pŵer i ddeddfu er mwyn atal trais rhag digwydd a chefnogi pobl sy'n cael eu heffeithio.

Mae rhai yn dadlau mai camgymeriad oedd newid enw'r bil gan newid y geiriau "trais yn erbyn merched" i "drais ar sail rhywedd".

'Dipyn o siom'

Mwenya Chimba yw cadeirydd y Grŵp Gweithredu Trais yn Erbyn Menywod, a dywedodd: "Mae pryderon yna ynglŷn ag os yw'r bil yn niwtral o ran rhyw yna ni fyddai'n taclo'r materion roedd e fod i wneud oherwydd ni fyddai dim wedi newid.

"Dyw e ddim fel petai na ddim cydnabyddiaeth fod dynion er enghraifft yn dioddef rhai mathau o drais, ond mae'r sefyllfa'n anghymesur ac er mwyn cael gwasanaethau addas mae'n rhaid i chi edrych ar raddau'r trais ar gyfer grwpiau penodol.

"Felly mae deddfwriaeth sy'n niwtral o ran rhyw yn dipyn o siom i'r grŵp."

Enw llawn y bil ydi'r , ac mi fydd yn cael ei gyflwyno yn y Senedd ddydd Mawrth.

Mae'r llywodraeth eisoes wedi dechrau ei hybu gan ofyn i bobl "wneud safiad" drwy gyhoeddi lluniau o'u hunain ar wefannau cymdeithasol yn cysylltu breichiau.

Yn ogystal mi fydd mwy o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi ynglŷn â pha gamau all pobl eu cymryd os ydyn nhw'n amau fod rhywun yn dioddef neu'n gyfrifol am drais.

'Rhoi grym'

Mewn ymateb i bryderon y grŵp cefnogi, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydym yn cydnabod fod menywod yn dioddef fwy o'r math yma o drais.

"Nod y bil yw i ddod a therfyn i bob math o drais yn y cartref a cham-drin rhywiol yng Nghymru ac edrych ymlaen i gyhoeddi manylion am sut rydym yn bwriadu cyflawni hyn.

"Cynnwys yw bil sy'n bwysig, nid ei enw."

Y gweinidog sy'n gyfrifol am y bil yw Lesley Griffiths.

Dywedodd: "Efallai bod cydweithwyr, ffrindiau, cymdogion a hyd yn oed teulu ofn gweithredu ar eu hamheuon oherwydd ofn eu bod nhw ofn gwneud camgymeriad, ymyrryd neu wneud y sefyllfa'n waeth i'r dioddefwr.

"Gyda'r ymgyrch yma rydym am roi'r grym i bobl sydd â gwybodaeth i ymateb yn y ffordd iawn os ydyn nhw'n amau fod cam-drin yn digwydd."

Mae'r llywodraeth wedi neilltuo £4 miliwn ar gyfer darparu gwasanaethau i ddioddefwyr ac addysg am berthnasau iach o fewn ysgolion.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol