Pencadlys S4C: Arwyddo cytundeb

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y cytundeb ei arwyddo nos Lun

Mae S4C a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant wedi arwyddo cytundeb fframwaith i symud pencadlys y sianel o Gaerdydd i Gaerfyrddin erbyn 2018.

Fe benderfynodd Awdurdod y Sianel ym mis Mawrth bod cais Caerfyrddin yn rhagori ar un Caernarfon, ond mae yna drafodaethau wedi bod dros y misoedd diwethaf i drafod union delerau'r cytundeb rhwng S4C a'r Brifysgol.

Ar gampws y Brifysgol nos Lun, cafodd y cytundeb ei arwyddo gan yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C.

Fe fydd y ddogfen nawr yn golygu bod modd paratoi amserlen ffurfiol ar gyfer y gwaith, gyda'r bwriad o sicrhau bod y pencadlys yn weithredol erbyn 2018.

Disgrifiad o'r fideo, Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C

'Cynllun uchelgeisiol'

Fe fydd tua 50 o swyddi yn symud o Gaerdydd i Gaerfyrddin, ond mae yna obeithion y bydd rhagor o swyddi yn dilyn wrth i gwmnïau cynhyrchu ymsefydlu yn Sir Gaerfyrddin.

Wrth arwyddo'r cytundeb fframwaith, meddai Huw Jones: "Mae arwyddo'r Cytundeb Fframwaith hwn gyda'r Brifysgol yn garreg filltir bwysig iawn.

"Dyma gadarnhau y byddwn yn bwrw ymlaen gyda'r cynllun uchelgeisiol hwn yn dilyn y datganiad o fwriad a gyhoeddwyd rai misoedd yn ôl."

Disgrifiad o'r llun, Argraff artist o'r adeilad newydd yng Nghaerfyrddin
Disgrifiad o'r llun, Y safle lle bydd pencadlys newydd S4C yn cael ei hadeiladu

Ychwanegodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Y mae'r datblygiad hwn yn golygu adeiladu adeilad pwrpasol ac eiconig a fydd yn gartref i S4C ac yn gatalydd ar gyfer hyrwyddo creadigrwydd ar draws y rhanbarth ac yn genedlaethol.

"Mae'r weledigaeth yn un uchelgeisiol sy'n cynnig cyfle i greu endid unigryw a chyffrous a gaiff effaith gadarnhaol ar economi, cymunedau a'r defnydd o'r Gymraeg ar draws y De Orllewin. "

Y cam nesaf wedi arwyddo'r cytundeb fframwaith yw sefydlu bwrdd prosiect, gyda chynrychiolwyr o'r Brifysgol ac S4C, a fydd yn gyfrifol am gyflawni'r cynllun.