Â鶹ԼÅÄ

Cyfarfod: Denu S4C i Gaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Rhodri Llwyd

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn Theatr Halliwell, Caerfyrddin nos Fercher i drafod y posibilrwydd o geisio denu pencadlys S4C i'r ardal.

Ar hyn o bryd mae'r sianel yn ystyried dau gais - un sy'n cael ei arwain gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant i symud i Gaerfyrddin a chais sy'n cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd i symud i Gaernarfon.

Ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru, dywedodd Gwilym Dyfri Jones, o Brifysgol Cymru Drindod Dewi Sant, fod staff a phartneriaid wedi "datblygu gweledigaeth gynhyrfus ac arloesol fydd yn atgyfnerthu S4C yn ystod cyfnod nesaf ei datblygiad" ers misoedd.

Roedd y cyfarfod, meddai, yn "gyfle i rannu'r weledigaeth gyda thrigolion y rhanbarth - Sir Gâr, Sir Benfro, Ceredigion ac Abertawe".

'Adfywiad'

Dywedodd fod y "cais yn seiliedig ar y modd y gallai adleoli pencadlys y sianel i Gaerfyrddin arwain at adfywiad ieithyddol, economaidd a diwylliannol ar draws Sir Gâr ac ymhellach hefyd."

Fe fyddai'r ganolfan newydd ar dir y brifysgol ond yn cysylltu gyda chymunedau ar draws y sir, yn ôl Mr Jones.

Mae'r brifysgol, meddai, wedi bod yn cydweithio'n agos gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin sy'n cefnogi'r cais.

Roedd aelod o uwch-dîm rheoli'r cyngor yn annerch y cyfarfod, ynghyd ag Is-Gangellor y brifysgol, Medwyn Hughes.

Pan ofynnwyd i Mr Jones a fyddai canolfan yng Nghaerfyrddin yn ogystal â Chaerdydd yn golygu bod y pwyslais yn rhy ddeheuol, dywedodd fod "gan S4C bresenoldeb yng Nghaernarfon yn barod, ac mae pencadlys sylweddol yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

"Dwi'n sicr y bydd y sianel yn dymuno cynnal presenoldeb yng Nghaerdydd yn y dyfodol felly onid gwell yw sicrhau triongl ar draws Cymru - Caerdydd, Caernarfon a Chaerfyrddin?"

Pwyso a mesur

Y gred ydi y bydd y ceisiadau'n cael eu cyflwyno o fewn tair wythnos ac y bydd awdurdod S4C yn pwyso a mesur y sefyllfa ym mis Mawrth cyn dod i benderfyniad.

Doedd neb o S4C yn y cyfarfod, ond dywedodd datganiad: "Ar hyn o bryd mae S4C yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb i'r posibilrwydd o symud pencadlys y sianel i ran arall o Gymru.

"Rydym yn edrych yn benodol ar ddau gais - sef cais sy'n cael ei arwain gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant i symud i Gaerfyrddin a chais arall sy'n cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd i symud i Gaernarfon.

"Rydym yn bwriadu cwblhau'r astudiaeth o fewn y misoedd nesaf.

"Bwriad S4C yw gweld a fyddai cymryd y cam yma'n gallu cynnig manteision economaidd, ieithyddol a diwylliannol i un o'r ardaloedd hynny mewn ffordd sy'n ddichonol i'r sianel ac yn gost-niwtral dros gyfnod."