Â鶹ԼÅÄ

Cyflwyno 'gweledigaeth' cais i symud S4C i Wynedd

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd penderfyniad ar adleoli pencadlys S4C yn cel ei wneud yn y misoedd nesaf

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal digwyddiad yng Nghaernarfon ddydd Llun i esbonio eu dadl dros adleoli pencadlys sianel S4C i Wynedd.

Ar hyn o bryd mae'r sianel yn ystyried dau gais i adleoli'r pencadlys - un sydd yn cael ei arwain gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant i symud i Gaerfyrddin, a'r llall sydd yn cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd i symud i Gaernarfon.

Opsiwn arall sydd dan ystyriaeth ydi parhau yn y pencadlys presenol yng Nghaerdydd.

Mae'r digwyddiad yng Nghaernarfon yn ymgais gan Gyngor Gwynedd i rannu eu 'gweledigaeth' o ddenu S4C i'r dref, meddai'r cyngor.

'Lleoliad Delfrydol'

Dywed Cyngor Gwynedd bod eu cais wedi denu cefnogaeth frwd gan nifer o bartneriaid yn lleol ac ar hyd y gogledd, sy'n gweld y cynnig i adleoli yn gyfle sylweddol i economi'r gogledd-orllewin.

Yn ôl y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd: "Mae Gwynedd yn leoliad delfrydol ar gyfer pencadlys S4C.

"Mae presenoldeb arbennig o'r diwydiannau creadigol eisoes yng Nghaernarfon, gyda'r Galeri ynghyd a nifer o gwmnïau teledu, y cyfryngau a'r maes digidol, ynghyd a chanolfan Pontio gwerth £45 miliwn sy'n cael ei ddatblygu ym Mangor.

"Byddai denu S4C yn sicrhau fod yr ardal yn dod yn galon strategol ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru."

'Gweledigaeth Uchelgeisiol'

Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi mynegi cefnogaeth i gais Cyngor Gwynedd i adleoli pencadlys S4C yng Nghaernarfon.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru: "Mae'r cais yn seiliedig ar weledigaeth uchelgeisiol gan Gyngor Gwynedd sydd yn cael ei gefnogi gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ddatblygu Doc Fictoria, Caernarfon a glannau'r Fenai i fod yn ganolfan genedlaethol a rhyngwladol ar gyfer diwydiannau creadigol yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg."

Pwyso a mesur

Y gred yw y bydd awdurdod S4C yn pwyso a mesur y sefyllfa'r mis yma cyn dod i benderfyniad.

Meddai Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis: "Ar hyn o bryd mae S4C yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb i'r posibilrwydd o symud pencadlys y sianel i ran arall o Gymru.

"Rydym yn bwriadu cwblhau'r astudiaeth yn fuan er mwyn i Awdurdod S4C benderfynu a ddylid derbyn un o'r ceisiadau hynny neu aros yng Nghaerdydd.

"Bwriad S4C yw gweld a fyddai cymryd y cam yma'n gallu cynnig manteision economaidd, ieithyddol a diwylliannol i un o'r ardaloedd hynny mewn ffordd sy'n ddichonol i'r sianel ac yn gost-niwtral dros gyfnod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol