Â鶹ԼÅÄ

Archeb anferth i Airbus

  • Cyhoeddwyd
Awyren Airbus
Disgrifiad o’r llun,

Yr A380 yw'r awyren deithwyr fwyaf yn y byd, ond mae'i gwerthiant wedi bod yn is na'r disgwyl

Mae cwmni Airbus wedi cael archeb sylweddol am 20 o'u hawyrennau superjumbo.

Mae'r newyddion yn un gwych i weithwyr eu ffatri ym Mrychdyn, Sir y Fflint, lle mae nhw'n cynhyrchu adenydd yr awyrennau.

Fe gyhoeddodd y cwmni awyrennau mai dyma oedd eu hail archeb yn Sioe Awyrennau Singapore.

Fe fydd yr 20 awyren A380 yn cael eu cynhyrchu ar gyfer cwmwni Amedeo.

Mae'r archeb werth tua £5 biliwn ac yn hwb anferth i'r cwmni gan bod gwerthiant yr A380 wedi cwympo yn is na disgwyliadau.

Yr A380 yw'r awyren deithwyr fwyaf yn y byd.

Mae disgwyl i'r archeb gael ei darparu rhwng 2016 a 2020.

Diwrnod ynghynt, fe gytunodd cwmni VietJetAir brynu mwy na 90 o awyrennau Airbus A320 gwerth £5.5 biliwn.