Â鶹ԼÅÄ

Airbus: archebion allai fod werth £30 biliwn

  • Cyhoeddwyd
Emirates Airbus A380 in flightFfynhonnell y llun, Airbus
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni Emirates eisiau 50 o awyrennau jumbo newydd

Mae cwmni Airbus wedi derbyn archebion allai fod werth dros £30 biliwn o bunnau mewn Sioe Awyrennau yn Dubai.

Mae Airbus yn cynhyrchu adenydd awyrennau ym Mrychdyn yn Sir y Fflint

Yn y sioe mi darwyd bargen efo cwmni hedfan o Dubai.

Mae'r cwmni awyrennau Etihad wedi dweud ei bod nhw eisiau 87 o awyrennau newydd.

Mae'r cwmni Qatar hefyd wedi gwneud archebion ar gyfer pum awyren A330 gyda'r potensial o brynu wyth arall.

'Stori o lwyddiant'

Ac mae cytundeb gwerth £14.2 biliwn wedi ei wneud gyda chwmni Emirates sydd wedi dweud eu bod nhw eisiau 50 o awyrennau jumbo A380.

Yn ôl Airbus mi fydd hyn yn gwarchod 2,500 o swyddi Prydeinig ym Mrychdyn a Bryste.

Mae'r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable wedi croesawu'r cytundeb:

"Mae'r diwydiant awyrofod ym Mhrydain yn arwain ar draws y byd.

"Dim ond America sydd yn gwneud yn well na ni. Dyma stori o lwyddiant."