Â鶹ԼÅÄ

Airbus: Archeb am 25 awyren

  • Cyhoeddwyd
Awyren Airbus A320Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r archeb am bum awyren A380 ac 20 awyren A350.

Mae cwmni Airbus wedi derbyn archeb am 25 o awyrennau oddi wrth gwmni Singapore Airlines.

Mae'r archeb am bum awyren A380 ac 20 awyren A350.

Ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint, sy'n adeiladu adenydd yr awyrennau A380 ac A350 a hwn yw'r trydydd tro i'r cwmni archebu awyrennau oddi wrth Airbus.

Deg lleoliad

Bydd yr awyrennau deulawr A380 yn cludo hyd at 525 o deithwyr ac yn cael eu defnyddio ar gyfer teithiau i 10 lleoliad yn Ewrop, America ac ardal Asia'r Môr Tawel o'u canolfan yn Singapore.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredoedd cwmni Airbus, John Leahy: "Mae cyhoeddiad un o gwmnïau hedfan mwyaf y byd yn tanlinellu pa mor foethus ac effeithlon yw awyrennau Airbus."

Daw'r cytundeb wedi i Philippine Airlines archebu 10 awyren A330 yn gynharach ym mis Hydref a 44 awyren A321 a 10 awyren A330 ym mis Awst.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol