Â鶹ԼÅÄ

Angen gwirfoddolwyr yn Yr Ysgwrn cartref Hedd Wyn

  • Cyhoeddwyd
Yr Ysgwrn
Disgrifiad o’r llun,

Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn yn Trawsfynydd

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn chwilio am wirfoddolwyr i'w helpu gyda phrosiect sy'n gysylltiedig â'r bardd, Hedd Wyn.

Fferm Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd oedd cartref y bardd a fu farw ar faes y gad yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Daw'r galw am wirfoddolwyr yn sgil y cynnydd yn y diddordeb yn y Ffermdy hynafol.

Mae'r awdurdod yn chwilio am hyd at £2.5m o arian grant oddi wrth Gronfa Dreftadaeth Y Loteri i ddatblygu'r safle fel amgueddfa.

'Pob oed'

Dywedodd Naomi Jones, rheolwraig prosiect Yr Ysgwrn: "Rydan ni'n chwilio am bobl sydd â diddordeb ym mywyd a gwaith Hedd Wyn ac â'r gallu i weithio gyda phobl o bob oed a chefndir.

"Mi ddylen nhw fod yn frwdfrydig, yn siarad Cymraeg, ac â sgiliau cyfathrebu da.

"Er mai chwilio am bobl i wirfoddoli yn y gwanwyn a'r haf yr ydan ni mi fyddwn ni hefyd yn casglu enwau pobl â diddordeb i wirfoddoli yn yr hir dymor.

"Felly os nad ydy hi'n gyfleus i bobl wirfoddoli yn ystod y misoedd nesaf, fe fydd cyfleoedd eraill yn y dyfodol."

Byd angen rhai fydd yn helpu gydag ymchwil, gofalu am gasgliadau a thywys ymwelwyr o gwmpas un o gartrefi enwocaf Cymru yn ogystal â rhoi help llaw gyda chynnal digwyddiadau arbennig,

1519

Y gred yw bod Yr Ysgwrn, adeilad rhestredig Gradd II ger Trawsfynydd, yn dyddio'n ôl i 1519.

Roedd yn gartref i'r bardd Ellis Humphrey Evans - Hedd Wyn - enillodd y Gadair yn Eisteddfod Penbedw yn 1917 am ei awdl "Yr Arwr".

Cafodd ei ladd ym Mrwydr Passchendaele ar Orffennaf 31, chwe wythnos cyn yr Eisteddfod.

Gall unrhyw un sydd eisiau manylion pellach gysylltu â Naomi Jones drwy e-bost Naomi.Jones@eryri-npa.gov.uk neu dros y ffôn ar (01766) 770274.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol