Â鶹ԼÅÄ

Lleisio barn ar yr Ysgwrn

  • Cyhoeddwyd
Yr Ysgwrn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Yr Ysgwrn ei brynu i'r genedl yn 2012

Bydd cyfle i bobl fynegi eu barn ar ddyfodol hen gartref Hedd Wyn yr wythnos nesaf, pan fydd ymgynghoriad yn cael ei lansio.

Y llynedd cafodd grant o £149,700 ei roi tuag at gynlluniau i gadw a datblygu'r Ysgwrn, ger Trawsfynydd, fel amgueddfa a chanolfan ddehongli.

Ond roedd angen i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri benderfynu ar gynlluniau manylach cyn gwneud cais am fwy o gyllid.

Bydd cyfle, fel rhan o'r ymgynghoriad, i weld y cynlluniau gan gwmni Purcell.

Credir fod Yr Ysgwrn yn dyddio'n ôl i 1519.

Roedd yn gartref i'r bardd Ellis Humphrey Evans - Hedd Wyn - a enillodd y Gadair yn Eisteddfod Penbedw yn 1917 am ei awdl, "Yr Arwr".

'Denu cefnogaeth'

Ond cafodd ei ladd ym Mrwydr Passchendaele chwe wythnos cyn yr Eisteddfod.

Bydd sesiwn i'r cyhoedd gael gweld y cynlluniau ar gyfer y bwthyn, a chael sgwrs gyda'r penseiri yn Neuadd Trawsfynydd ar nos Fercher, Tachwedd 27.

Yn ôl rheolwr y prosiect, Naomi Jones, mae angen ymgynghori i ddenu cefnogaeth.

"Cyn cyflwyno'r ceisiadau, rydym yn awyddus i ymgynghori â'r rhai sydd â diddordeb a'r sawl fydd yn cael eu heffeithio gan ddatblygiad Yr Ysgwrn, er mwyn sicrhau bod y cynlluniau mor effeithiol â phosib ac er mwyn sicrhau cymaint o gefnogaeth ag y gallwn ni i'r datblygiad," meddai.

"Rhai syniadau sydd gennym, er enghraifft, yw adfer llofftydd a bwtri'r Ysgwrn i'w cyflwr gwreiddiol, gwella mynediad i bobl anabl a defnyddio rhai o adeiladau traddodiadol y safle i ddehongli themâu sy'n gysylltiedig â'r Ysgwrn."