Â鶹ԼÅÄ

'Gwybodus a brwdfrydig'

  • Cyhoeddwyd
Meilir JarrettFfynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Meilir Jarrett yn dechrau ar ei ddyletswyddau yn Yr Ysgwrn ar Dachwedd 1

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penodi tenant newydd i gartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd.

Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd yr awdurdod mai cwmni lleol fyddai'n gyfrifol am y broses o ddod o hyd i denant i ffermio'r tir a chyhoeddwyd ddydd Iau mai Meilir Jarrett, 23 oed o Drawsfynydd, fydd y tenant newydd.

Bydd yn dechrau yn yr adeilad cofrestredig Gradd II sy'n cynnwys ffermdy, byngalo - a thir ffermio - ar Dachwedd 1.

'Gwybodus a brwdfrydig'

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Yr Ysgwrn ei brynu i'r genedl ddechrau mis Mawrth eleni

Ar ran yr awdurdod parc dywedodd y Cyfarwyddwr Rheoli Tir, Emyr Williams: "Roedd penodi tenant i ffermio a rheoli'r tir amaethyddol yn rhan allweddol o reolaeth gynaliadwy y tir.

"Mae Meilir yn hogyn ifanc, lleol, gwybodus a brwdfrydig ac edrychwn ymlaen at gael cydweithio gyda'n gilydd er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus a llwyddiannus i'r Ysgwrn."

Mae'n fferm fynyddig ac yn cwmpasu 170 erw o dir amaethyddol, hawliau pori comin, beudai ynghyd â da byw sy'n cynnwys 200 o ddefaid Cymreig a 5 o heffrod duon Cymreig.

'Milltir sgwâr'

Dywedodd Meilir: "Rwy'n hynod falch o gael y cyfle gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddechrau amaethu.

"Rwy'n lwcus fy mod i am fedru gweithio yn fy milltir sgwâr, ond hefyd mewn daliad mor adnabyddus a phwysig o ran hanes a diwylliant Cymru."

Farmers Marts (R.G. Jones) oedd yr asiant oruchwyliodd weinyddu ceisiadau'r denantiaeth a'r un cwmni fydd hefyd yn gyfrifol am arwerthiant offer amaethyddol Yr Ysgwrn fore Sadwrn, Medi 22.

Hefyd gan y Â鶹ԼÅÄ

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol