Ymgynghoriad ar wella coridor yr M4

Ffynhonnell y llun, Mathew Horwood

Disgrifiad o'r llun, Byddai'r cynllun yn golygu adeiladu traffordd newydd i'r de o Gasnewydd er mwyn lleihau tagfeydd ar yr M4

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gynllun drafft i wella ffyrdd yng nghoridor yr M4 ger Casnewydd.

Pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo, byddai'n golygu adeiladu traffordd newydd i'r de o Gasnewydd.

Mae traffordd yr M4 yn yr ardal yn aml yn dioddef o dagfeydd, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn dweud sydd angen ei wella er lles economi Cymru.

Yn y gorffennol mae gwrthwynebwyr wedi dweud y gall gynlluniau o'r fath gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd.

Ffordd osgoi

Prif fwriad y cynllun yw creu traffordd tair lon rhwng Magwyr a Chas-bach, i'r de o Gasnewydd, er mwyn lleihau traffig ar yr M4 yn yr ardal.

Mae'r cynllun drafft yn cynnwys dau lwybr gwahanol ar gyfer ffordd newydd.

Mae hefyd yn darparu cynlluniau "sy'n fwy addas i feicwyr a cherddwyr".

Dywedodd Gweinidog yr economi, trafnidiaeth a gwyddoniaeth, Edwina Hart: "Mae amseroedd siwrnai annibynadwy a thagfeydd traffig, yn enwedig yn ystod yr oriau brig yn gyffredin iawn ar yr M4 o amgylch Casnewydd.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cynllun hefyd yn nodi dwy ffordd amgen i'r draffordd newydd

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r broblem chynhwysedd a chydnerthedd ar y brif ffordd gyswllt allweddol hon, y cydnabyddir yn eang ei bod yn allweddol i economi Cymru.

Ymateb

Yn y gorffennol mae gwrthwynebwyr wedi codi pryderon am effaith ffordd osgoi ar yr amgylchedd.

Fis Mehefin dywedodd AC Plaid Cymru Dafydd Ellis-Thomas fod angen canolbwyntio ar wella ffordd yr A48 yn hytrach na ffordd osgoi newydd.

"Gosododd Llywodraeth Cymru'n Un allan gyfres o welliannau fyddai'n dechrau lliniaru'r tagfeydd o gwmpas Casnewydd.

"Casgliad rhesymegol y gwelliannau hyn fyddai parhau i uwchraddio coridor yr A48 ac ymdrin â thagfa barhaus Brynglas.

"Byddai hyn yn costio llai ac yn cymryd llai o amser i'w gwblhau na Ffordd Liniaru'r M4 a hefyd yn golygu bod mwy o fuddsoddiad dros ben ar gyfer prosiectau trafnidiaeth integredig mewn rhannau eraill o Gymru."

Ond mae'r cynllun wedi denu cefnogaeth gan eraill sy'n gweld bod ffordd liniaru yn hollbwysig er mwyn busnesau de Cymru.

Ym mis Ebrill dywedodd Cymdeithas y Cyflogwyr, y CBI, bod ffordd osgoi yn flaenoriaeth.

Yn ôl Leighton Jenkins o CBI Cymru: "Mae'r M4 yn borth i Gymru ac yn chwarae rhan allweddol wrth ddenu buddsoddiad ar adeg anodd."

Daw'r ymgynghoriad i ben ddydd Llun, 16 Rhagfyr.