Â鶹ԼÅÄ

Cyhoeddi cynlluniau ar gyfer yr M4

  • Cyhoeddwyd
M4
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynlluniau i wella'r M4 wedi bod yn cael eu hystyried ers 2004

Mae cynlluniau ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ffordd liniaru ar gyfer yr M4.

Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal dros yr haf ar adeiladu traffordd newydd i'r de o Gasnewydd.

Dywedodd y Canghellor yn ei gyhoeddiad am yr adolygiad gwariant fod cynlluniau "trawiadol" ar gyfer yr M4 ar waith.

Yn dilyn hyn fe gyhoeddodd Edwina Hart, Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, ei bod wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â gwahanol ffyrdd i wella coridor yr M4.

Tagfeydd

Mae llawer wedi cwyno bod tagfeydd yn amharu ar ddatblygiad economi de Cymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn am safbwynt Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyntaf - er mwyn ystyried yr effaith debygol ar yr amgylchedd.

Wedyn mae Ms Hart yn gobeithio ymgynghori â'r cyhoedd ym Medi ynglŷn â llunio cynllun drafft terfynol ar gyfer y draffordd newydd.

Dywedodd Emma Watkins, Cyfarwyddwr CBI Cymru: "Rydym yn falch fod y Canghellor wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ffordd liniaru ar gyfer yr M4 - ac y bydd penderfyniad ar Silk cyn bo hir fydd yn helpu cefnogi'r porth hanfodol i Gymru."

Fe wnaeth y Gweinidog Cyllid Jane Hutt groesawu'r cyhoeddiad yn araith Mr Osborne, gan ddweud ei fod wedi "cydnabod ein cynlluniau trawiadol i uwchraddio'r M4."

'Gwrthwynebu'

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu'r cynlluniau a dweud eu bod nhw'n gwrthwynebu adeiladu traffordd newydd oherwydd yr effaith bosibl ar yr amgylchedd.

Dywedodd eu llefarydd trafnidiaeth Dafydd Elis-Thomas: "Gosododd Llywodraeth Cymru'n Un allan gyfres o welliannau fyddai'n dechrau lliniaru'r tagfeydd o gwmpas Casnewydd.

"Casgliad rhesymegol y gwelliannau hyn fyddai parhau i uwchraddio coridor yr A48 ac ymdrin â thagfa barhaus Brynglas.

"Byddai hyn yn costio llai ac yn cymryd llai o amser i'w gwblhau na Ffordd Liniaru'r M4 a hefyd yn golygu bod mwy o fuddsoddiad dros ben ar gyfer prosiectau trafnidiaeth integredig mewn rhannau eraill o Gymru."

Dywedodd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig Paul Davies: "Mae ymrwymiad y Canghellor i adeiladu ffordd liniaru ar gyfer yr M4 yn un rydyn ni'n ei groesawu'n fawr.

"Mae penderfyniad Llafur i roi'r prosiect o'r neilltu wedi arwain at deithwyr rhwystredig.

"Rydyn ni fel Ceidwadwyr Cymreig wedi bod o blaid y ffordd ers amser maith."