Â鶹ԼÅÄ

Cyhoeddi gwelliannau i ffyrdd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Hart yn gobeithio y bydd y ffordd gyswllt yn lleihau tagfeydd

Mae cynlluniau ar gyfer adeiladu ffordd gyswllt yn nwyrain Caerdydd am fynd yn eu blaen yn ol y gweinidog trafnidiaeth.

Cyhoeddodd Edwina Hart fod yr oedi mewn adeiladu ffordd Gyswllt Ddwyreiniol Bae Caerdydd ac uwchraddio Cyffordd 28 ar yr M4 yn dod i ben.

Yn ol Ms Hart prif bwrpas y buddsoddiad yw rhoi hwb i ddatblygiad canol Caerdydd fel ardal fenter.

Ond mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu'r cynlluniau gan ei disgrifio fel "rhestr o ddymuniadau".

Datrys problemau tagfeydd

Mewn datganiad dywedodd Edwina Hart: "Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig eisoes ar 26 Mehefin ynghylch fy mwriad i ymgynghori ar gynllun drafft ac asesiadau cysylltiedig ar gyfer coridor yr M4 o amgylch Casnewydd ym mis Medi.

"O'i gyflawni, byddai'r cynllun hwn yn arwain at adeiladu traffordd i'r de o Gasnewydd gan ddatrys rhai o'r problemau capasiti a thagfeydd ar y brif ffordd gyswllt allweddol hon, y cydnabyddir yn eang ei bod yn allweddol i economi Cymru.

"Yn ychwanegol, rwy'n bwriadu bwrw ymlaen â'r cynlluniau ar gyfer ffordd Gyswllt Ddwyreiniol Bae Caerdydd ac uwchraddio Cyffordd 28 ar yr M4. Mae'r prosiectau hyn yn bwysig ar gyfer gwella'r mynediad i Ardal Fenter Canol Caerdydd a gwella'r cysylltiadau o fewn y dinas-ranbarth."

'Gwamalu'

Fe wnaeth llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Byron Davies groesawu'r newyddion hefyd ond rhybuddiodd y bydd rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn gweithredu'r newidiadau.

Dywedodd Mr Davies: "Cafodd lawer o'r prosiectau trafnidiaeth mawr yna eu crybwyll dros ddegawd yn ôl, yn ystod y blynyddoedd o ddigonedd, ond cawsant nhw eu hoedi oherwydd gwamalu gan Lafur.

"Oherwydd hynny bydd gweithredu'r datblygiadau hyn nawr yn llawer anoddach.

"Gobeithio y gwneith y llywodraeth Lafur yma gael gwared â'i hagwedd ddiog a gweithio gyda Llywodraeth y DU i weithredu'r prosiectau sydd ar y rhestr ddymuniadau hon."

Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd llefarydd trafnidiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol Eluned Parrott: "Mae hwn yn ddatblygiad hir-ddisgwyliedig ar gyfer Caerdydd ac yn arbennig y cymunedau yn ne a dwyrain Caerdydd sydd wedi gorfod dioddef gormod o draffig yn eu hardal dros y blynyddoedd.

"Mae'r ffordd newydd yn bwysig iawn i Gaerdydd, Bae Caerdydd, Parth Menter Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd i ddenu ymwelwyr newydd a busnes o'r dwyrain.

"Yr wyf yn aros am ragor o wybodaeth gan y Gweinidog am yr union lwybr, yr ystyriaethau amgylcheddol, yr amserlen ar gyfer adeiladu a'r costau sydd ynghlwm."

Gwellianau eraill

Yn ogystal â'r gwelliannau i ffyrdd Caerdydd, fe wnaeth y gweinidog gyhoeddi llawer o welliannau eraill fydd yn cael eu gwneud dros y blynyddoedd nesaf gan gynnwys:

•Deuoli'r A465 "o gofio ei phwysigrwydd strategol i Flaenau'r Cymoedd, Ardal Fenter Glynebwy ac fel cyswllt cenedlaethol a rhyngwladol";

•Gwelliannau i Five Mile Lane "er mwyn gwella'r mynediad at Ardal Fenter Sain Tathan Maes Awyr Caerdydd";

•Ffyrdd osgoi ar gyfer y Drenewydd A483/A489 a'r A487 Caernarfon-Bontnewydd.

Dywedodd Ms Hart bod angen gwneud mwy o waith ymchwil cyn dechrau ar welliannau i'r A487 a'r A55 drwy astudio systemau draenio Pont Dyfi a tagfeydd ar Bont Britannia