Â鶹ԼÅÄ

Ynni gwynt: Cyhoeddi safle is-orsaf a llwybr posib

  • Cyhoeddwyd
Peilonau
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Grid Cenedlaethol yn asesu effaith posib y cynlluniau ac yn holi barn cymunedau lleol dros y misoedd nesa'

Mae'r Grid Cenedlaethol wedi cyhoeddi'r safle maen nhw'n ffafrio ar gyfer is-orsaf a llwybr posib i gysylltu ffermydd gwynt allai gael eu codi yng nghanolbarth Cymru.

Bydd wyth milltir o'r ceblau trydan yn debygol o gael eu rhoi dan ddaear yn ardal Meifod, Dyffryn Efyrnwy - cartre'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2015.

Gallai math newydd o beilon hefyd gael ei ddefnyddio uwchben y ddaear i gario trydan o Bowys i Sir Amwythig.

Yn ôl y Grid, mae'r llwybr arfaethedig yn "osgoi pentrefi ac ardaloedd pwysig eraill cymaint â phosib", gan "ddefnyddio bryniau a choed fel cefndir naturiol i helpu i leihau'r effaith weledol".

Byddan nhw nawr yn ystyried ble i osod y peilonau a pha fath o beilon fyddai fwya' addas - gan gynnwys ystyried math newydd o beilon ar ffurf 'T', sy'n 15 metr yn fyrrach na pheilonau cyffredin.

'Rheoli effeithiau'

Meddai rheolwr y prosiect cysylltu yng nghanolbarth Cymru, Jeremy Lee: "Rydym yn cydnabod arwyddocad diwylliannol Dyffryn Meifod...ac yn deall yr effaith posib allai gwifrau 400 cilofolt haearn eu cael ar y dyffryn - rhywbeth mae pobl wedi dweud wrthym sy'n bwysig iddynt.

"Rydym yn credu mai rhoi'r rhan yma o'r cysylltiad o dan y ddaear yw'r ffordd orau i reoli'r effeithiau hyn ac mae'n golygu bod modd cadw'r ardal hon yn debyg i'r ffordd mae'n edrych heddiw mwy neu lai."

Maen nhw wedi enwi safle sydd i'r gogledd orllewin o'r safle gwreiddiol, ar dir sy'n rhan o fferm wynt Tir Gwynt, ar gyfer is-orsaf bosib.

'Anghysbell'

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd peilonau yn cludo'r trydan o Gefn Coch drwy ardal Llansantffraid a dros y ffin i Lower Frankton yn Sir Amwythig

Yn ôl y cwmni, mae "mewn man anghysbell ger y fferm wynt ac nid yw'n weladwy o bentrefi nac o'r ffordd drwy'r ardal", gan fod hwn hefyd yn bryder a godwyd gan gymunedau lleol.

Ychwanegodd Mr Lee: "Fe edrychon ni ar sawl safle ar gyfer yr is-orsaf ac rydym wedi dewis yr un yr ydym ni'n credu sy'n cynnig y cydbwysedd gorau o ran yr holl ffactorau dan ystyriaeth. Rydym yn credu ei fod yn cynnig posibiliadau cryf o ran lleihau'r effaith weladwy ac yn gosod yr is-orsaf ar wahân i bentrefi a meysydd carafanau yn yr ardal."

Bydd y Grid yn cynnal asesiadau dros y misoedd nesa' i edrych ar effeithiau posib ar yr amgylchedd, twristiaeth, llifogydd a ffactorau eraill, ac maent yn bwriadu ymgynghori gyda pherchnogion tir a chymunedau lleol.

"Gall cymunedau lleol a pherchnogion tir ddylanwadu ar gynlluniau manwl ein cynnig ac rydym nawr yn gofyn i bobl yn yr ardal am eu barn. Mae'r adborth hwn yn bwysig iawn a bydd yn ein helpu i ddeall sut y gallwn leihau unrhyw effeithiau o'n gwaith," meddai Mr Lee.

Ers dwy flynedd mae anghytuno a gwrthwynebu codi tyrbinau a pheilonau trydan wedi dod yn bwnc llosg yn Sir Drefaldwyn.

Ar hyn o bryd mae ymchwiliad cyhoeddus yn ystyried a ddylid caniatáu pum fferm wynt fawr yn yr ardal ai peidio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol