Â鶹ԼÅÄ

Dewis Dyffryn Efyrnwy ar gyfer llwybr cludo trydan

  • Cyhoeddwyd
Map o'r ardal
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd peilonau yn cludo'r trydan o Gefn Coch drwy ardal Llansantffraid a dros y ffin i Lower Frankton yn Sir Amwythig

Mae'r Grid Cenedlaethol wedi cadarnhau y byddan nhw'n bwrw ymlaen gyda'u cynlluniau i gludo cyflenwad trydan o ffermydd gwynt yn y Canolbarth i Loegr drwy Dyffryn Efyrnwy yn hytrach na Dyffryn Peniarth.

Maen nhw hefyd wedi datgan y bydd y cyflenwad yn cael ei gludo gan geblau tanddaearol mewn rhannau o Ddyffryn Efyrnwy o gwmpas pentref Meifod fydd yn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2015.

Dywed y Grid Cenedlaethol y bydd lleoliad y ceblau tanddaearol yn ddibynnol ar dirfesuriadau ac asesiadau pellach.

Eu bwriad ydi codi is-orsaf drydan ym mhentref Cefn Coch ger Llanfair Caereinion.

Cyfarfodydd cyhoeddus

Fe fydd peilonau, rhai yn 154 troedfedd (47m) o uchder, yn cludo'r trydan oddi yno drwy ardal Llansantffraid a dros y ffin i Lower Frankton yn Sir Amwythig.

Gallai'r trydan sy'n cael ei gynhyrchu gael ei ddosbarthu i dde ddwyrain Lloegr.

Dywedodd Jeremy Lee, rheolwr y prosiect: "Rydym yn dal i ystyried y llwybr orau i gludo'r trydan ond roedd heriau adeiladu yn Nyffryn Peniarth gan gynnwys y dyffryn serth ac effeithiau amgylcheddol yn golygu bod y llwybr trwy Dyffryn Efyrnwy yn well opsiwn.

"Bydd gosod ceblau tanddaearol yn yr ardaloedd mwyaf sensitif o gwmpas Meifod yn addas wrth gydnabod tirwedd brydferth a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal.

"Rydym yn deall pryderon pobl ynghylch ein cynlluniau felly roeddem am roi gwybod am y datblygiadau diweddaraf yn awr yn hytrach nag aros tan i'r gwaith ar y llwybr orffen."

Ar ôl cyhoeddi eu cynlluniau yn 2011 mae'r Grid Cenedlaethol wedi dweud bod canolbarth Cymru wedi cael ei glustnodi fel lleoliad pwysig i ddatblygu ynni gwynt.

Gwrthdystiadau

Ond mae yna wrthwynebiad cryf wedi bod yn lleol, gyda nifer o gyfarfodydd cyhoeddus a phrotestiadau.

Bydd yr is-orsaf ar safle 19 erw o dir ac fe allai'r gwaith o'i chodi gael ei gwblhau erbyn 2015.

Yr wythnos diwethaf dywedodd y Grid Cenedlaethol eu bod yn chwilio am dirfeddianwyr 11 darn o dir fel bod tirfesuriadau'n gallu cael eu cynnal.

Bydd y peilonau yn cludo trydan o nifer o ffermydd gwynt arfaethedig i bwerdy yng Nghefn Coch.

Mae nifer o wrthdystiadau wedi cael eu cynnal ym Mhowys ers i gynlluniau i godi'r isbwerdy ar safle 19 erw (7.6hectar) gael eu datgelu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol