Â鶹ԼÅÄ

Cyngor Powys yn 'gwrthwynebu tair fferm wynt'

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Powys wedi mynegi gwrthwynebiad yn erbyn codi tair fferm wynt fawr yn y sir.

Byddai'r tair fferm yn cynhyrchu dros 50 megawat o ynni yr un.

Adran Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol gyda'r cyngor sir yn gweithredu fel ymgynghorwyr statudol.

Yn Neuadd y Sir, Llandrindod, ers 9.30am mae cabinet y cyngor wedi bod yn trafod ceisiadau ar gyfer safleoedd yn Llaithdu, Llandinam a Llanbrynmair.

Y prif resymau am y gwrthwynebiad oedd yr effeithiau ar y rhwydwaith ffyrdd, y dirwedd, twristiaeth, bywyd gwyllt a diwylliant.

Cyn y cyfarfod dywedodd arweinydd gweithredol y cyngor, David Jones, fod y ceisiadau cynllunio i godi ffermydd gwynt yn "ffynhonell pryder sylweddol" i bobl Powys.

Ymgynghoriad

Darlledodd y cyngor y trafodion yn fyw ar y rhyngrwyd.

Mae Cyngor Sir Powys wedi gwrthwynebu ceisiadau tebyg yn y gorffennol ac mae hyn wedi arwain at gynnal sawl ymgynghoriad cyhoeddus.

Cafodd nifer o geisiadau am ffermydd gwynt eu gwrthwynebu ym mis Mawrth oedd yn ymwneud â chodi dwy fferm wynt, un ger Llanbrynmair yn Sir Drefaldwyn ac un ar dir yn Llanbadarn Fynydd yn Sir Faesyfed.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol