Â鶹ԼÅÄ

Pryder am effaith cynlluniau trafnidiaeth ar economi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Trên HS2Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Cymru ddim yn rhan o'r cynlluniau ar gyfer gwasanaeth trên cyflym yr HS2 ar hyn o bryd

Gallai problemau yn gysylltiedig â phrif ffordd gyswllt yr M4 a chynlluniau ar gyfer gwasanaeth trên cyflym yn Lloegr gael effaith niweidiol ar economi Cymru, yn ôl adroddiad gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig.

Yn ôl yr adroddiad, mae'r ffordd gyswllt - sy'n hollbwysig yn strategol i economi Cymru a'r DU yn ehangach - wedi diodde' dros y blynyddoedd oherwydd diffyg buddsoddiad a thraffig trwm.

Mae'r pwyllgor yn galw ar lywodraethau'r DU a Chymru i gydweithio i "ddod o hyd i atebion realistig a fforddiadwy i ddelio â'r problemau hyn".

Dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried yr adroddiad a'u bod yn gobeithio dod i gytundeb yn fuan gyda Llywodraeth y DU ar ffordd ymlaen.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod tollau uchel ar Bont Hafren yn atal busnesau yng Nghymru rhag datblygu ac yn rhwystro cwmnïau o'r tu allan rhag buddsoddi yn y wlad.

Felly maen nhw'n galw ar Lywodraeth y DU i weithredu i leihau'r gost.

HS2

Tra bod y pwyllgor yn croesawu'r buddsoddiad mewn cysylltiadau rheilffordd newydd i mewn i Gymru, maent yn rhybuddio y gallai'r cynlluniau ar gyfer gwasanaeth trên cyflym rhwng Llundain a Birmingham fod yn niweidiol i economi Cymru.

Mae'r ffaith nad yw Cymru'n rhan o'r cynllun HS2 yn golygu y gallai busnesau ac unigolion symud dros y ffin tua'r dwyrain, rhybuddia'r adroddiad.

Yn ôl y pwyllgor, byddai gwasanaeth o'r fath rhwng Cymru a Lloegr yn hwb fawr i economi Cymru ac yn helpu i gyflawni amcanion i sicrhau economïau mwy cytbwys o fewn y DU.

Maen nhw felly yn galw ar lywodraethau'r DU a Chymru i ddechrau datblygu cynlluniau i gysylltu Cymru gyda'r rhwydwaith rheilffordd cyflym.

Fis Gorffennaf y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau manwl i wella'r rheilffyrdd ym Mhrydain, gan gynnwys buddsoddiad o £2 biliwn i drydaneiddio rheilffordd y Great Western rhwng Llundain ac Abertawe.

Tra bod y pwyllgor yn croesawu hyn, maen nhw'n dweud ei bod yn aneglur pam bod Cymru'n cael arian fel rhan o un cynllun rheilffordd, ond ddim yn cael unrhyw arian i'w digolledu am y ffaith nad yw'n rhan o'r cynllun HS2.

Mae'r adroddiad hefyd yn galw am well cysylltiadau trên rhwng canolbarth Cymru a Lloegr.

'Siomedig'

Dywedodd David Davies, cadeirydd y pwyllgor dethol: "Rydym yn croesawu penderfyniad y llywodraeth i ehangu'r trydaneiddio ar reilffordd y Great Western o Gaerdydd i Abertawe, ac i drydaneiddio'r gwasanaethau o'r cymoedd i Gaerdydd ...

"Mae'n dda gweld y bydd teithwyr yn elwa ac y bydd mwy o gyfleoedd o ran yr economi a gwaith trwy Gymru.

"Ond mae'n siomedig nad yw Cymru'n rhan hyd yma o'r cynlluniau ar gyfer rhwydwaith trên cyflym ar draws y DU. Fe ddylai llywodraethau'r DU a Chymru ddechrau ystyried hyn nawr.

"Rydym wedi rhybuddio droeon am effaith niweidiol cost tollau pontydd Hafren ar economi Cymru, ac mae'r sefyllfa honno'n gwaethygu os rhywbeth ... Byddwn yn parhau i gadw golwg ar y sefyllfa ac yn pwyso am ateb a fydd yn fuddiol i bobl ac economi Cymru.

"Yn gyffredinol, mae 'na ddiffyg buddsoddi wedi bod yn llwybr yr M4 i mewn i Gymru ers blynyddoedd ac mae angen i'r ddwy lywodraeth ddod o hyd i arian ar gyfer gwelliannau brys angenrheidiol ar y ffordd bwysig hon."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn ystyried yr adroddiad yn ofalus ac yn trafod y materion a godwyd gyda Llywodraeth y DU. Rydym yn gobeithio y bydd casgliadau'r pwyllgor yn annog y llywodraeth yn San Steffan i ddod i gytundeb buan gyda ni ar becyn cyllid i fynd i'r afael â'r problemau ar yr M4."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol