Â鶹ԼÅÄ

Cytundeb Maes Awyr yn 'agos' medd Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Cardiff airport
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y maes awyr eu bod yn disgwyl twf o rwng 5-8% yn ystod 2013

Mae Llywodraeth Cymru yn agos at arwyddo cytundeb i brynu Maes Awyr Caerdydd gyda'r ddwy ochr "ddim yn bell iawn" o gytuno pris, medd Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd Carwyn Jones wrth Aelodau Cynulliad nad oedd cyfrifon y maes awyr wedi datgelu unrhyw bryderon er bod rhai arbenigwyr wedi dweud wrtho fod dyfodol masnachol y maes awyr yn gyfyngedig.

Yn gynharach yn y mis, roedd y ffigyrau diweddaraf yn dangos bod ychydig dros filiwn o deithwyr wedi defnyddio'r maes awyr yn 2012 - cwymp o ryw 200,000.

Mae gweinidogion yn ystyried sawl ffordd o redeg y maes awyr.

Ergyd

Roedd ymadawiad cwmni bmi baby o'r maes awyr yn 2011 yn ergyd, ond dywed y maes awyr eu bod yn disgwyl 5-8% o dwf yn ystod 2013.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru cyn y Nadolig eu bwriad i brynu'r maes awyr gan gwmni Sbaenaidd Abertis.

Clywodd ACau ar bwyllgor menter a busnes y Cynulliad fwy o fanylion am y trafodaethau sydd wedi digwydd, a mwy am yr hyn sy'n debyg o ddigwydd os bydd y pryniant yn digwydd.

Dywedodd Mr Jones wrthyn nhw: "Dydyn ni ddim yn mynd i brynu rhywbeth sy'n mynd i achosi problemau i bobl Cymru, ac wrth fynd drwy'r broses o graffu mae'n ymddangos nad oes yna unrhyw broblemau mawr gyda'r maes awyr."

Datgelodd hefyd nad oedd y ddwy ochr wedi cytuno ar bris terfynol, ond nad oedden nhw'n bell iawn o gytundeb.

Amserlen

Cyhoeddodd y Prif Weinidog amserlen fras o'r hyn fydd yn digwydd os bydd y cytundeb yn cael ei gwblhau.

Dywedodd y byddai tîm dros dro yn rhedeg y maes awyr wrth i Lywodraeth Cymru ystyried y model gorau am berchnogaeth a gweithredu'r safle.

Roedd y dewisiadau'n cynnwys gosod y safle ar brydles i gwmni preifat, neu ryw fath o fenter ar y cyd allai gynnwys perchnogaeth ar y cyd.

Pan ddaw penderfyniad terfynol, fe fyddai proses dendro yn dechrau i ddewis cwmni o'r sector preifat i redeg y maes awyr o ddydd i ddydd.

Teithiau newydd

Ychwanegodd Mr Jones mai ei flaenoriaeth ar y dechrau fyddai denu teithiau newydd i mewn ac allan o'r maes awyr, gan ddweud hefyd bod cwmniau teithiau awyr ddim wedi dangos diddordeb yn safon y cysylltiadau ffyrdd a threnau o'r safle yn ystod trafodaethau.

Cafodd y Prif Weinidog ei holi am ei honiad bod y pryniant yn cael ei wneud fel ffordd o sicrhau dyfodol y maes awyr.

Ymatebodd trwy ddweud bod trafodaethau gyda pherchnogion y safle wedi rhoi'r argraff iddo eu bod mewn trafferthion.

Dywedodd hefyd bod ffynonellau gwahanol, gan gynnwys arbenigwyr yn y maes, wedi dweud wrtho eu bod yn credu mai ond ychydig o flynyddoedd oedd gan y maes awyr ar ôl fel menter fasnachol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol