Â鶹ԼÅÄ

Airbus yn symud gwaith i Korea

  • Cyhoeddwyd
Ffatri Ogleddol Airbus ym Mrychdyn yn Sir y FflintFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd peth o'r gwaith ar adenydd yr A320 yn symud o ffatri Airbus ym Mrychdyn

Mae undeb llafur mwyaf y DU, Unite, wedi disgrifio penderfyniad gan gwmni Airbus, i symud gwaith ar adenydd i Korea, fel camgymeriad mawr.

Cafodd staff y cwmni yn eu ffatri ym Mrychdyn, Sir y Fflint, wybod ddydd Mawrth y bydd gwaith ar grwyn adenydd yr awyren A320 yn symud i ffatri KAI yn Korea.

Dywed cwmni Airbus y bydd y 30 o weithwyr fydd yn cael eu heffeithio gan y newid yn cael eu hail hyfforddi i weithio mewn lleoedd eraill.

Ond dywed undeb Unite fod y penderfyniad yn tanseilio sgiliau gweithwyr y DU, ac y bydd yn gwanhau safle Prydain yn y diwydiant awyrennau byd-eang.

'Ar eu colled'

Dywedodd Ian Waddell o'r undeb: "Mae yna lawer o gwmnïau yn y DU sy'n barod ac yn medru gwneud y gwaith i Airbus, ond maen nhw ar eu colled nawr bod y gwaith wedi ei symud i Korea.

"Mae'r DU yn arwain y byd wrth adeiladu adenydd, ond mae'r penderfyniad yma'n gwanhau'r sefyllfa yna, ac yn rhoi mantais ddianghenraid i'r cystadleuwyr.

"Mae llywodraethau'r DU a Chymru wedi rhoi miliynau o bunnau i Airbus dros lawer o flynyddoedd, ond nid yw'r gefnogaeth honno'n cael ei hadlewyrchu drwy gadw gwaith yn y DU."

'Penderfyniad positif'

Gwadu'r cyhuddiad wnaeth cwmni Airbus mewn datganiad sy'n dweud:

"Bydd y penderfyniad yma'n cryfhau Airbus yn y DU yn y tymor hir, gan ganiatáu i ffatri Brychdyn ganolbwyntio ar feysydd canolog sydd â gwerth uchel.

"Bydd y gwaith lefel uchel a chydosodiad terfynol adenydd yr A320 yn parhau i gael ei wneud ym Mrychdyn.

"Mae'r penderfyniad i symud gwaith sydd ddim yn ganolog i KAI yn benderfyniad strategol positif sy'n cydnabod y cynnydd mewn capasiti o ganlyniad i lyfr archebion cryf Airbus.

"Mae'r graddfeydd cynhyrchu ym Mrychdyn yn cynyddu, ac fe fydd llawer o'r adnoddau sy'n cael eu creu gan y penderfyniad yma yn cefnogi effaith y cynnydd ym Mrychdyn.

"Mae Brychdyn yn ganolfan o safon byd-eang am gynhyrchu adenydd, ac fe fydd y penderfyniad yma yn sicrhau y gall ganolbwyntio ar ei chryfderau.

"Mae Airbus yn y DU yn cyflogi 10,000 o bobl yn uniongyrchol, ac yn darparu gwaith i 100,000 yn fwy drwy'r gadwyn gyflenwi estynedig."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol