Â鶹ԼÅÄ

Airbus: Datrys problem y craciau

  • Cyhoeddwyd
A380 wings are made in the UKFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae adenydd yr A380 yn cael eu cynhyrchu ym Mrychdyn

Mae un o benaethiaid cwmni Airbus yn dweud eu bod wedi canfod ateb tymor hir i'r craciau sydd wedi ymddangos yn rhai o adenydd awyren yr A380 sy'n cael eu gwneud yn Sir y Fflint.

Dywedodd Tom Williams bod y mater wedi creu embaras i'r cwmni a bod rhai cwsmeriaid wedi cael eu siomi.

Pwysleisiodd nad oedd pryderon am ddiogelwch oherwydd y broblem.

Cafodd craciau bychain eu canfod mewn nifer fechan o fracedi o fewn yr adenydd, sy'n cael eu cynhyrchu ym Mrychdyn.

Mae'r bracedi yn cysylltu strwythur mewnol yr adenydd gyda chroen allanol yr awyren.

Pan ddaeth y broblem i'r amlwg, gorchymynnodd Asiantaeth Diogelwch Awyrennau Ewrop y dylid cynnal archwiliad ar bob awyren o'r fath.

Dilyn cyfarwyddiadau

Cyfaddefodd Tom Williams bod camgymeriadau wedi eu gwneud wrth ddewis deunydd y bracedi mewnol, ac yn y modd y cafon nhw'u cynllunio.

Ond pwysleisiodd nad oedd hynny'n adlewyrchu'n wael ar weithwyr Brychdyn, gan iddyn nhw ddilyn cyfarwyddiadau'r cynllun i'r llythyren.

"Rwy'n credu erbyn hyn fod gennym ateb tymor hir o safbwynt y cynllun," meddai Mr Williams.

"Yr hyn sy'n rhaid i ni wneud nawr yw datblygu'r cynllun a'i ddefnyddio mewn deunydd go iawn, eu hadeiladu a'u profi, oherwydd fedrwn ni ddim newid popeth dros nos.

"Y sefyllfa ar hyn o bryd yw y bydd gennym ateb erbyn diwedd y flwyddyn, ond eto mae'n bosib y bydd hi'n 2014 cyn y gwelwch chi awyrennau yn mynd drwy'r broses gynhyrchu sy'n gwbl lân."

Mae tua 70 o awyrennau A380 yn gweithredu ar hyn o bryd ac mae gan y cwmni archebion am 250 yn fwy ohonynt.

'Problem ddrud'

Wrth siarad am effaith y craciau ar gwsmeriaid Airbus, dywedodd Mr Williams: "Mae archebion wedi eu canslo ac mae oedi wedi bod.

"Mae'r A380 yn llwyddiannus ac yn gwneud elw mawr i'r cwmniau awyr, ond pan mae'r awyren yn methu hedfan mae'r gwrthwyneb yn wir, ac mae'n gallu bod yn broblem ddrud.

"Mae'n embaras ein bod wedi siomi cwsmeriaid.

"Mae'r gweithwyr yn teimlo hynny i'r byw. Roedden ni'n anghywir ac mae'n rhaid i ni ddatrys y broblem yn gyflym.

"Rydym yn ceisio bod yn agored a thryloyw gyda'n cwsmeriaid ynglŷn â'r broblem."

Datgelodd y cwmni bod y broblem i'w gweld yn yr un 20 braced yn yr adenydd, ac er bod tua 4,000 o fracedi ymhob aden, mae'r broblem yn yr un lle bob tro.

Arafwyd y gwaith cynhyrchu o ganlyniad i'r mater, ond mae bellach yn ôl i'r arfer a doedd dim effaith ar lefelau staffio ym Mrychdyn, sy'n cyflogi 6,000 o bobl.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol