Airbus: Archeb am 10 awyren ychwanegol

Ffynhonnell y llun, AFP

Mae cwmni Airbus wedi derbyn archeb am 10 o awyrennau A330 gan gwmni Philippine Airlines (PAL).

Daw'r cytundeb newydd wedi i PAL archebu 44 awyren A321 a 10 awyren A330 ym mis Awst eleni.

Mae'r awyrennau llai (A321) ar gyfer teithiau rhanbarthol llai o fewn y wlad, gyda'r awyren lydan (A330) ar gyfer teithiau prysurach, a rhai pellach i'r Dwyrain Canol ac Awstralia.

Ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint, sy'n adeiladu adenydd yr awyrennau A321 ac A330, ac fe fydd yr awyrennau cyntaf yn barod erbyn y flwyddyn nesaf.

Mae'r archeb yn rhan o ailstrwythuro cwmni PAL.

Dywedodd prif swyddog gweithredoedd cwmni Airbus, John Leahy: "Mae'r archeb hon unwaith eto yn dangos llwyddiant yr awyren A330 fel yr un mwyaf poblogaidd o ran ei ddosbarth.

Ar hyn o bryd, mae 8,500 o awyrennau A321 wedi cael eu harchebu, a dros 5,200 eisoes wedi eu prynu gan 365 o gwsmeriaid ar draws y byd.

Mae 900 o'r A330 yn cael eu defnyddio ar draws y byd, ac mae archebion am 1,200 arall.