Â鶹ԼÅÄ

Airbus yn gohirio dadorchuddio'r A350

  • Cyhoeddwyd
Awyren A350
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r awyren yn gystadleuaeth i Boeing 737 Dreamliner

Mae cwmni Airbus yn dweud y bydd 'na oedi cyn iddyn nhw ddadorchuddio eu hawyren newydd.

Mae'r cwmni yn dweud bod 'na broblemau gyda'r gwaith o gynhyrchu adenydd yr A350.

Mae'r adenydd yn cael eu cynhyrchu yn ffatri'r cwmni ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Fe fydd 'na oedi o dri mis cyn y bydd yr awyren, sy'n gystadleuaeth uniongyrchol i awyren Boeing 787 Deamliner.

Yn ail hanner 2014 y bydd yr awyrennau cyntaf A350 yn cael eu dosbarthu.

Cafodd ym Mrychdyn ei agor y llynedd er mwyn gwneud yr adenydd.

Proses arbennig

Dywedodd llefarydd ar ran Airbus eu bod yn symud ymlaen gyda'r prosiect.

Mae gan y cwmni archebion ar gyfer 548 o awyrennau.

"Mae'n gynllun rhyngwladol cymhleth ac mae 'na berygl o orfod addasu'r amserlen," meddai'r llefarydd.

"Mae'r oedi o dri mis o ganlyniad yn bennaf i broses drilio arbennig ar yr adenydd.

"Rydym wedi llwyddo i ddatrys y neb ac mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen nawr."

Mae'r awyren yn cynnwys adenydd ffibr carbon.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol