Â鶹ԼÅÄ

Cytundeb £370m i gwmni o Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
The A380 double-decker jet is the firm's flagship planeFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Awyren yr A380 fydd un o'r rhai i dderbyn cydrannau gan Magellan

Mae cwmni o Wrecsam wedi arwyddo cytundeb gwerth £370 miliwn i gyflenwi cydrannau ar gyfer cwmni Airbus, a'u ffatri ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Mae'r cytundeb yn ehangu ar berthynas sydd eisoes yn bodoli rhwng Airbus a chwmni Magellan Aerospace i gyflenwi cydrannau alwminiwm a thitaniwm ar gyfer adenydd awyrennau'r A320, A330 ac A380, ac fe fydd yn rhedeg tan Ragfyr 2019.

Eisoes mae Magellan wedi arwyddo cytundeb arall ar gyfer cydrannau i'r awyren A350 ym Mrychdyn, ond mae'r cytundeb newydd wedi galluogi Magellan i fuddsoddi £15 miliwn o gyfalaf.

Dywedodd llywydd a phrif weithredwr Magellan, James S. Butyniec: "Mae'r cytundeb tymor hir yma yn dangos ein hymroddiad i ddatblygu perthynas gyda'n cwsmeriaid ac i fuddsoddi'r adnoddau angenrheidiol i gefnogi eu hanghenion i'r dyfodol.

"Rydym yn falch bod gan Airbus hyder yn ein gallu i ddarparu nwyddau ar gyfer eu hawyrennau."

Mae Magellan yn gwmni cyhoeddus sy'n masnachu cyfranddaliadau ar y farchnad stoc yn Toronto, ac mae ganddynt unedau cynhyrchu yn yr Unol Daleithiau, Canada, y DU ac India.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol