Â鶹ԼÅÄ

Airbus yn agor ffatri adenydd newydd ar gyfer yr A350

  • Cyhoeddwyd
Ffatri Ogleddol Airbus ym Mrychdyn yn Sir y FflintFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd tua 650 o bobl yn gweithio yn y ffatri newydd

Mae'r Prif Weinidog, David Cameron, wedi agor ffatri newydd sy'n werth £400 miliwn ar safle Airbus yn Sir y Fflint.

Bydd tua 650 o bobl yn gweithio yn y ffatri newydd 46,000 metr sgwâr ac yno bydd adenydd ffibr carbon ar gyfer awyren newydd yr A350 yn cael eu cynhyrchu.

Eisoes mae'r cwmni'n cyflogi 6,000 o weithwyr ym Mrychdyn a hwn yw'r safle cynhyrchu unigol mwya yn y DG.

Dywedodd Mr Cameron: "Mae'r llywodraeth yn ymroddedig i economi fwy cytbwys, mwy o swyddi yn y sector gynhyrchu, allforio a buddsoddi preifat ...

340 o deithwyr

"Dwi'n croesawu'r agoriad hwn sy'n rhan o'n rhaglen ni wrth greu twf economaidd cynaliadwy."

Dywedodd fod y buddsoddi ar safle Airbus yn dangos eu hyder yn y gweithwyr.

Bydd modd i'r awyren A350 gario hyd at 340 o deithwyr ac mae disgwyl i'r awyrennau cyntaf wasanaethu cwsmeriaid erbyn 2013.

Yn ôl Airbus, fe fydd yn diogelu swyddi am flynyddoedd.

Mae gan y cwmni eisoes archebion am 550 o'r awyrennau.

Fe fydd dros hanner yr adenydd yn cael eu gwneud o ffibr carbon ac, yn ôl y cwmni, fe fydd yr awyren A350 25% yn fwy effeithiol o ran tanwydd na'r awyrennau eraill o'r un maint.

Hwn yw'r agoriad mwya ym Mrychdyn ers agor y Ffatri Orllewinol yn 2003 er mwyn adeiladu adenydd yr awyren jumbo A380.

Technoleg ddiweddara

"Mae gan Frychdyn hanes balch, 70 mlynedd o hanes ym myd adeiladu awyrennau," meddai Paul McKinlay, pennaeth safle Airbus ym Mrychdyn.

"Mae'n wych gweld ein bod yn dal ar y blaen o ran technoleg gyda'r prosesau diweddara.

"Dwi'n hynod o falch bod Brychdyn yn rhan o hyn.

"I'r gweithwyr, mae'r ffatri newydd a'r awyren newydd yn arwydd o ddiogelu swyddi dros y blynyddoedd nesaf.

"I'r 6,000 o weithwyr yma, mae'n newyddion gwych."

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Darlun cyfrifiadur o'r Airbus A350 yn yr awyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron £29 miliwn mewn hyfforddiant arbenigol.

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, oedd hefyd yn yr agoriad: "Mae'n ddiwrnod gwych, nid yn unig i Airbus ond i Gymru hefyd.

"Mae'r adenydd yn cael eu cynhyrchu yma, yn dystiolaeth ohonon ni ar ein gorau - cwmni byd-eang yng Nghymru yn gwneud cynnyrch fydd yn cael ei ddefnyddio ym mhedwar ban y byd.

"Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas waith agos a da gydag Airbus sy'n gwmni pwysig i'r wlad.

"Rydym wedi buddsoddi £29 miliwn er mwyn sicrhau bod y Ffatri Ogleddol yn agor yma yng Nghymru ac y bydd modd i adenydd yr A350 gael eu hadeiladu yma."

'Pwysig iawn'

Dywedodd LlÅ·r Huws Gruffydd, AC Gogledd Cymru Plaid Cymru, fod y newyddion yn dangos hyder yn y gweithlu lleol.

"Pan yw hi'n anodd dod o hyd i waith, mae swyddi arbenigol yn y ffatri newydd yn bwysig iawn."

Mae awyren yr A350 yn cystadlu yn erbyn awyren Boeing Dreamliner 787, a oedd i fod yn yr awyr erbyn 2008 ond sydd wedi ei ohirio.

Mae gan Boeing 821 archeb am yr awyren 787, sydd, yn ôl y cwmni 20% yn fwy effeithiol o ran tanwydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol