Â鶹ԼÅÄ

Airbus yn gorfod archwilio adenydd

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni Airbus yn gorfod archwilio adenydd pob awyren A380 sy'n cael eu defnyddio.

Asiantaeth Diogelwch Awyrennau Ewrop ddywedodd fod angen archwilio 67 o awyrennau.

Dywedodd Airbus nad oedd craciau adenydd rhai o'r awyrennau yn bygwth diogelwch ac y byddai'r adenydd yn cael eu hatgyweirio os oedd unrhyw ddifrod.

Mae'r adenydd, systemau tanwydd a chyfarpar glanio yn cael eu hadeiladu ym Mrychdyn, Sir y Fflint, a Filton ger Bryste.

'Ehangu'

Ym mis Ionawr dywedodd yr asiantaeth fod angen archwilio 20 o'r awyrennau A380 sy'n cael eu defnyddio yn y byd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Oherwydd canlyniadau archwiliad mis Ionawr fe benderfynwyd ehangu'r archwiliad i'r holl awyrennau ..."

Wedi archwiliadau penderfynodd cwmni Qantas stopio defnyddio awyren Airbus A380 am hyd at wythnos ddydd Mercher wedi i 36 o graciau bach gael eu darganfod ym mracedi'r adennydd.

Daeth y craciau mân llai na 2cm o hyd i'r amlwg ar ran o'r adenydd wedi cynnwrf yn yr awyr ar daith rhwng Llundain a Singapore ym mis Ionawr.

Dywedodd Qantas fod y craciau'n gysylltiedig â "materion cynhyrchu".

Mae Cwmni Hedfan Singapore eisoes wedi trwsio rhai o'u hawyrennau A380 wedi i'r cwmni ddarganfod craciau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol