Βι¶ΉΤΌΕΔ

Iolo ap Dafydd ar faes yr Eisteddfod

Llywydd yn galw am ddefnyddio'r iaith


'Defnyddio'r iaith neu golli'r iaith - dyna'r dewis'

Daeth galwad am i'r Cymry Cymraeg ddefnyddio'r iaith ar bob achlysur - a chychwyn pob sgwrs yn y Gymraeg oddi wrth lywydd dydd Iau yr Eisteddfod. p>

Ac yntau wedi teithio'r byd wrth ei waith yn ohebydd gyda'r Βι¶ΉΤΌΕΔ dywedodd Iolo ap Dafydd fod y Gymraeg yn iaith y mae'n ei defnyddio dramor hefyd er mwyn dangos ei fod yn perthyn i ddiwylliant gwahanol i weddill gorllewin Ewrop. p>

"A beth fuaswn i'n hoffi ei wneud heddiw ydi ein hannog ni'r Cymry Cymraeg i ddefnyddio'r iaith nid yn unig yn ystod wythnos yr Eisteddfod fel hyn ond bob dydd," meddai. p>

"Yr ydym i gyd yn defnyddio'r Gymraeg- yn naturiol gyda'n teuluoedd os ydan ni'n ddigon ffodus o ddod o gefndir lle mae'r ddau riant yn siarad Cymraeg," meddai. p>

"Dwi di byw fwy o amser yn y de ddiwydiannol nad ydw i yn y gogledd bellach ac rydw i wedi cael agoriad llygad yn y de ddwyrain faint mae'r Gymraeg - nad ydi hi yn iaith sydd yn cael ei defnyddio bob dydd ond yn iaith y gwersi ac mae hi'n iaith yr ysgol, a beth fuaswn i'n hoffi nid yn unig yn yr ardaloedd di-Gymraeg ond yn yr ardloedd Cymraeg hefyd ein bod ni i gyd yn sylweddoli fod yn rhaid inni gyd siarad mwy o Gymraeg, mae'n rhaid inni ei defnyddio hi fwy," meddai. p>

"Gan iddyn nhw ofyn i mi fod yn llywydd heddiw yr oeddwn i eisiau dweud hynny achos yr ydw i yn ei deimlo fo'n gynyddol," ychwanegodd. p>

Dywedodd iddo ef gael ei synnu ar yr ochr orau o'r ymateb annisgwyl y mae'n ei gael pan yw'n defnyddio'r iaith mewn siopau a chyda sefydliadau a chwmniau. p>

"Pan fyddai'n mynd i mewn i siop rydw i'n gofyn yn gyntaf yn y Gymraeg gan wybod yn reddfol nad ydw i'n mynd i gael ateb yn Gymraeg - ond weithau rydw i yn cael ateb Cymraeg ; weithiau yn Tesco o bob man yng nghanol Caerdydd rydw i'n cael ateb yn Gymraeg. p>

Weithiau mewn siop yn canton yng nghanol Caerdydd rydw i'n cael ateb Cymraeg a dyna i mi ydi gwerth y peth. p>

"A dyna ydw i wedi sylweddoli , siaradwch Gymraeg gynta ac os nad ydi rhywun yn eich ateb chi yn y Gymraeg, iawn troi i'r Saesneg wedyn. Ond defnyddiwch y Gymraeg bob cyfle gewch chi achos os na wnawn fe fyddwn yn ei cholli hi. p>

"Er gwaethaf popeth sydd yn digwydd yng Nghymru heddiw, er gwaetha'r ffaith fod gwleidyddion yn dweud fod popeth yn iawn mae'r iaith ar dwf; fydd hi ddim os nad ydym ni y Cymry yn ei defnyddio hi," meddai.

Rhagor am Iolo ap Dafydd


Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.