Â鶹ԼÅÄ

Carys Edwards - cynhyrchiad arall

Dyddiadur Dyddiol (3)

Briwsion bob dydd

Nodiadau dyddiol o faes yr Urdd

Byddai wedi bod yn anodd dod o hyd i ddiwrnod gwell na ddoe i sôn am Noa ar faes yr Eisteddfod.

Dyma'r diwrnod gwlypaf eto ac mae'n edrych i hynny amharu ar faint yr ymwelwyr yn go sylweddol - ond 12,823 o gymharu â'r ugain mil ddydd Llun a Mawrth.

Y newyddion da yw ei bod yn brafiach heddiw.

A Noa?
Wel, y Noa y bu sôn amdano yw 'teitl gweithio' cynhyrchiad newydd Theatr Ieuenctid yr Urdd - Lasarus o gwmni sy'n awr yn llawn bywyd.

A'r newyddion da i'r rhai hynny sy'n cofio sioe ysgolion uwchradd Eisteddfod yr Urdd Shir Gâr y llynedd yw mai'r un rhai sydd tu ôl i Noa gyda Carys Edwards, y cynhyrchydd yn dychwelyd i Ganolfan y Mileniwm, Caerdydd, i efelychu ei champ gyda Les Miserables pan gynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd ddiwethaf yn yr adeilad hwnnw.

Awduron Noa yw Siwan Jones a Catrin Dafydd gyda Caryl Parry Jones, Huw Chiswell, Eric Jones a Dyfan Jones yn gyfrifol am y gerddoriaeth.

Mae gennym hawl i edrych ymlaen.

Y bobl iawn

Un sylw diddorol a wnaeth Carys Edwards wrth sôn am y cwmni ieuenctid oedd fod angen mwy na thalent i fod yn aelod llwyddiannus ohono.

Dywedodd fod ymroddiad cyn bwysiced bob tamaid â thalent.

"Mae prydlondeb," meddai, "mor bwysig â thalent anhygoel."

Mae rhywun yn dyfalu mai ffordd arall o ddweud mai am actorion a pherfformwyr cydwybodol y mae hi'n chwilio nid prima donas.

Bosib mai dyna pam y bu cystal llewyrch ar bethau yn Shir Gâr y llynedd.

Croeso pwy?

Yr oedd sawl un yn gweld rhywbeth yn chwithig yn y ffaith mai aelodau'r Urdd o Sir Fôn oedd ar y llwyfan echdoe i groesawu'r miloedd i Eisteddfod yr Urdd Caerdydd y flwyddyn nesaf - a hynny hep gopa walltog o'r Brifddinas yn agor ei freichiau.

Dim rhyfedd i rywun ofyn; "Pwy fydd yn gwahodd yr Eisteddfod i'r gogledd yn 2010? Aelodau'r Urdd yng Nghwm Rhymni?"

Bob yn damaid

Cornel brysur o faes yr Eisteddfod yw un cwmni Lego ym Mhentref Mr Urdd.

Lle gwych i adael y plant lle maen nhw wedi bod yn adeiladu Mr Urdd newydd gyda'r blociau bach lliwgar.

Ac yntau'n dathlu ei hanner canrif dyma ymweliad cyntaf Lego â'r eisteddfod ac yr oedd un rhiant yn holi, wrth weld y plant yn creu, tybed a oes lle am gystadleuaeth Lego yn y dyfodol ar gyfer y babell gelf a chrefft?

Gwyrddioni

Coch, Gwyn a Gwyrdd, gwyrdd, fydd lliwiau'r Urdd o hyn allan.

Ddoe cyhoeddwyd gwybodaeth am gynlluniau gwyrdd y mudiad am y blynyddoedd nesaf dan y pennawd Urdd Gwyrdd.

A phawb yn cymeradwyo, yn naturiol.

Hynny yw, nes iddyn nhw sylweddoli mai'r peth mwyaf amgylcheddol anghyfeillgar ynglÅ·n ag Eisteddfod yr Urdd yw'r holl geir a cherbydau sy'n heidio yno.

A hynny'n esgor ar yr awgrym y gallai codi tâl am barcio wneud i bobl ailfeddwl a dod rhyw ffordd arall.

Dechreuodd y cwyno yn barod.
Coch, gwyn a grwgnach amdani felly!

Allan yn awr am ddiwrnod arall - ar faes sy'n llonni dan awyr las.

Dyddiadur 4

Dyddiadur 2


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.