Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Llywydd yn fethiant
"Methiant a methiant a methiant llwyr" - dyna mae Eisteddfodau'r Urdd yn ei olygu i Alun Williams, un o gyflwynwyr Planed Plant a bwytwr bwydydd anghynnes ar raglen goginio Stwffio S4C.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n cael eu codi'n llywyddion y dydd yn Eisteddfod yr Urdd dywedodd Alun mai methu ag ennill dim fu ei hanes ef yn eisteddfodau'r Mudiad ddiwedd yr Wythdegau.

Yn wir, collodd ei le mewn parti cân actol hyd yn oed oherwydd bod ganddo "ddwy droed chwith" yn ôl yr hyfforddwraig, Gwen Jones, mam Caryl Parry Jones.

"I fod yn rhan o barti cân actol mae'n rhaid ichi wrth guriad a medru dawnsio ond doedd gen i ddim curiad o gwbl ac allwn i ddim dawnsio ac fe ddywedodd hi wrthyf mewn ffordd annwyl a chwrtais iawn nad oeddwn i'n ffitio i mewn i ganu actol," meddai.

Methiant llwyr
Cyn hynny, meddai Alun iddo fod yn fethiant llwyr hefyd mewn cystadlaethau eraill er cael ei gymell a'i hyfforddi i'w gystadlu gan ei rieni.

"Y mae Eisteddfod yr Urdd yn golygu un peth i mi ac un peth yn unig - methiant a methiant a methiant llwyr," meddai.

Yr oedd ei chwaer Lowri, fodd bynnag, yn llawer mwy llwyddiannus.
"Ac mae gen i atgofion melys iawn ohonom yn mynd ardraws Cymru yn ei chefnogi hi," meddai.

Ond yr wythnos hon gallai Alun ymhyfrydu ei fod yntau o'r diwedd wedi cael llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd - nid llwyfan yr Eisteddfod ei hun efallai ond y mae ei sioeau Stwffio yn profi'n hynod o boblogaidd deirgwaith y dydd ar stondin S4C ar y Maes.

Cricedyn wedi'i ffrio
Fore Mawrth dywedodd mai'r peth casaf a gafodd i'w fwyta hyd hynny oedd cricedyn wedi ei ffrio.

Pethau sydd wedi troi ei stumog yn y gorffennol ydi scorpion a nadroedd - y cyfan wedi eu paratoi gan Anthony Evans ar gyfer Stwffio.

Ond dywedodd mai'r bwyd casaf o bob un arall y bu'n rhaid iddo ei fwyta oedd aelod mul sy'n cael ei gymeradwy fel bwyd llesol i ferched beichiog yn Hong Kong.

Ond doedd o ddim yn fwyd a apeliai o gwbl i rywun fel Alun sydd a mwy o ddant at baked beans a thost.

"Ac wrth gwrs, dydw i ddim yn ferch nac yn feichiog . . ." meddai.




About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý