Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2006

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2006

O'r Maes
Lluniau

Cefndir

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Caryl Parry Jones Cyngherddau'r wythnos
Sêr yn talu teyrnged i Caryl
Teyrnged i Caryl Parry Jones fydd un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych 2006.

Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan Mai 28 mae Rhys Meirion, Eden, Dewi Pws, Emyr Wyn, Dafydd Dafis, disgyblion Ysgol Glanaethwy ac aelodau o'r anterliwt ysgolion.

Bydd Caryl ei hun - a fagwyd yn Ffynnongroyw rhwng Treffynnon a'r Rhyl - yno ar y noson. Meddai:

"Pan glywais am y cyngerdd teyrnged ro'n i'n teimlo'n wylaidd iawn ac wrth fy modd i fod yn onest.

"Dwi bob amser yn dweud fy mod i mor lwcus fy mod yn gwneud yr hyn be dwi'n ei wneud.

"Dwi'n ennill fy mywoliaeth trwy wneud yr hyn dwi'n ei garu orau yn y byd. Bydd teulu a ffrindiau yn y gyngerdd ac rwy'n siwr y byddai'n teimlo'n eitha emosiynol," meddai.

"Mae Eisteddfod yr Urdd yn rhoi hyder i bobol ifanc, a'r cyfle i werthfawrogi safon, a sut i golli efo urddas," ychwanegodd.

Dwy arall
Bydd dwy sioe arall ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod yr Eisteddfod. Cymerir rhan yn Plas Du Mai 27 am saith, gyda geiriau gan Hywel gwynfryn a cherddoriaeth gan Robat Arwyn gan ddisgyblion ysgolion uwchradd Sir Ddinbych.

Ymysg y cast mae Steffan Rhys Hughes, 12 oed o Landyrnog, sy'n wyneb cyfarwydd ar hyd a lled Cymru yn dilyn ei lwyddiant gyda'r Urdd.

Glyndwr
Ar Fai 30 a 31 bydd disgyblion ysgolion cynradd y sir yn cyflwyno cynhyrchiad am, Owain Glyndwr.

  • Y rhif ar gyfer tocynnau yw 0845 2571639 neu gellir ymweld â gwefan yr Urdd




  • About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý