Â鶹ԼÅÄ

Y llun y bu disgyblion Ysgol y Creuddyn ac Iwan Llwyd yn ei drafod

Llun y bardd olaf yn sbarduno cerdd

Cyfansoddi gydag Iwan Llwyd

Bu rhai o ddisgyblion Ysgol y Creuddyn ger maes yr Eisteddfod yn ymateb yng nghwmni prifardd yr wythnos hon i beintiad trawiadol sy'n cael ei arddangos ym mhabell Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar y maes.

Peintiwyd Y Bardd, sydd yng nghasgliad yr Amgueddfa yn Nghaerdydd, yn 1774 gan Thomas Jones (1742-1803) yn ymateb i gerdd The Last Bard gan Thomas Gray - awdur y gerdd enwog Ode in a Country Churchyard a fu ar faes llafur cenedlaethau o blant ysgol.

Mae'r darlun yn dangos milwyr Edward y Cyntaf yn cyrraedd y fro lle mae Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon - ac ar flaen y llun gyda'i delyn y mae un bardd unig - y bardd olaf sy'n dal yn fyw.

Eglurodd Kenneth Brasil o'r Amgueddfa i Gray sgrifennu ei gerdd ,Y Bardd Olaf, y sylfaenwyd y llun arni, wedi iddo gyfarfod telynor o Gymru mewn digwyddiad yng Nghaergrawnt a hwnnw yn adrodd wrtho hanes am Edward yn lladd y beirdd Cymraeg i gyd.

Yr wythnos hon bu disgyblion o Ysgol y Creuddyn yn ymateb i'r llun yng nghwmni y Prifardd Iwan Llwyd ym mhabell yr Amgueddfa gan gydweithio i lunio cerdd ar y cyd a fu'n cael ei harddangos ochr yn ochr â'r llun.
Dyma'r gerdd honno:

Y Bardd Olaf
Tra bod y cerrig yn sefyll
Tra bod y coed yn las
Tra bod mynyddoedd Eryri
Yn gadwyn, a thra bod yr ias
Mor oer a gwaed y Brythoniaid
Mor dywyll a chreulondeb ei hun,
Mor dyner â'r glaw sy'n disgyn

Yn ddiddiwedd yn hanes pob un.
Tra bod y golomen yn hedfan
A deilen yn ei phig fel cerdd
A'r llanw yn dechrau gostegu
A gwyneb y tir eto'n werdd.

Tra bod y beirdd yn llafar
A'r delyn â'i thannau ar dân
Fe fydd na obaith a phŵer
Fe fydd na gariad â chân.

Dywedodd Kenneth Brasil mai'r gred erbyn hyn yw mai chwedl yw'r hanes am ladd y beirdd ond i'r llun fod yn sbardun arbennig i'r disgyblion serch hynny.

Ychwanegodd y bydd y stori yn parhau yn awr gydag ymweliad i Iwerddon gan ddisgyblion yr ysgol i gyflwyno'r hanes ac i ymchwilio i'r cysylltiad rhwng y Creuddyn ag Iwerddon.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.