Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Eleri Sion a Iolo Williams Eleri - Merch y Plas
Dychwelyd i Blasdy Llanerchaeron yn Nyffryn Aeron y gwnaeth y gyflwynwraig Eleri Siôn gyda Iolo Williams yn y rhaglen Crwydro ar S4C.

Yn ystod ei phlentyndod treuliodd Eleri oriau lawer yn y plasdy, sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

"Roeddwn yn treulio lot fawr o benwythnosau a gwyliau ar y fferm ac yn y plasdy," meddai Eleri, gohebydd Chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, a chyflwynydd y rhaglen Wawffactor ar S4C

Plas Llannerchaeron, © BCC"Mae gymaint o le yma fel oeddwn yn gallu rhedeg o gwmpas y lle. Oedd hi fel rhyw Alice in Wonderland!"

Mae Eleri yn lais cyfarwydd i wrandawyr Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru fel un o gyflwynwyr y rhaglen chwaraeon Sadyrnol, Camp Lawn.

Cyn gohebu bu Eleri ei hun yn cymeryd rhan ym myd y campau gan gynrychioli'r sir mewn hoci a chapteinio'r tîm rygbi yn y Brifysgol yng Nghaerdydd.

Yn ogystal â diddordeb ym myd y campau, yn ferch ifanc roedd Eleri yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol.

Fe ymwelodd Eleri a Iolo â Chapel Neuadd Lwyd, lle fel ferch fach y dechreuodd adrodd a chanu.

"Dwi'n credu i mi ddechrau canu a sefyll o flaen cynulleidfa pan yn dair neu bedair mlwydd oed," medd Eleri.

"Roedd Capel Neuadd Lwyd yn le da i ddod yn gyfarwydd gyda'r sgil berfformio."

Y tu allan i'r Capel ceir cofeb i anrhydeddu dau aelod o'r capel, David Jones a Thomas Bevan, aeth i Madagascar fel cenhadon ym 1819.

Eleri Sion Eleri oedd y ferch gyntaf i'w phenodi yn ohebydd rygbi ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru cyn mynd ymlaen i gyflwyno rhaglen Y Clwb Rygbi ar S4C.

Mae hi wedi cael cwrdd gyda mawrion y gêm, ac ymysg y rhai dyma'n creu argraff yw'r gŵr gododd Gwpan y Byd yn 1995 fel capten De Affrica - Francois Pienaar.

"Nes i gwrdd gydag ef pan oedd yn gysylltiedig gyda chlwb y Saraceniaid yn Llundain. Roedd e'n grêt, lot o sbort yn perthyn iddo fe a hiwmor ffraeth."

Gŵr arall bu Eleri yn mwynhau fod yn ei gwmni yw'r Albanwr Gavin Hastings, ond dyw hi dim yn ffan un o gyn gapteniaid Lloegr a gŵr fu'n rhaid dychwelyd yn fuan o daith y Llewod yn ddiweddar.

"Cwrddais gyda Lawrence Dallaglio unwaith - ond allwn i byth dweud ar gamera beth dwi'n feddwl ohono fe!"

Dwy flynedd yn ôl cafodd y cyfle i ddarlledu o Gwpan Rygbi'r Byd yn Awstralia, profiad y mae hi'n gyfri fel un o uchafbwyntiau ei gyrfa.

"Yr oedd hi'n freuddwyd cael bod allan yno, yn enwedig gan fod Cymru wneud mor dda.," meddai. "Roedd hi'n anrhydedd cael bod yn Gymraes ma's yn Awstralia. Allwn i fyw yno, dyne beth dwi ishe wneud. Mae'n lle ffantastig."

  • Proffeil o Eleri Siôn
  • Gwefan Aberaeron

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý