Yn Abertawe y cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2011 - rhwng dydd Llun Mai 30 a dydd Sadwrn, Mehefin 4.
Byudd y maes ar hen waith dur y Felindre y tu allan i'r ddinas - yr un maes ag a ddefnyddiwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2006.
Yn barod bu digwyddiad arbennig gydag un o gymeriadau hynotaf yr ardal yn ymuno â Mistar Urdd i groesawu'r Eisteddfod i'r ardal.
Cymerodd Cyril the Swan, mascot Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, â taith fawreddog o amgylch dros 40 o ysgolion Abertawe a'r fro ganol mis Medi.
Rhannwyd gwybodaeth am yr Eisteddfod a sut i fod yn rhan o'r bwrlwm yn ogystal â syniad o beth fydd yn eu haros ar y Maes y flwyddyn nesaf.
"Mae'n ŵyl sy'n atynnu miloedd o ymwelwyr o Gymru ben baladr a thu hwnt, heb sôn am gynulleidfa o bron i filiwn ar y cyfryngau," meddai. "Does dim profiad gwell na bod yn rhan o'r digwydd a'r gobaith."
Noddwyd y daith ysgolion gan Garej Sinclair, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Menter Abertawe. Meddai Andrea Morris, Rheolwr Busnes Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, "Mae Cyril bob amser yn edrych am ffrindiau newydd ac mae'n ymddangos ei fod wedi ffeindio ffrind mynwesol yn Mistar Urdd. Mae Eisteddfod yr Urdd yn brofiad gwych i blant a phobl ifanc yr ardal ac rydym yn falch iawn o gael cynnig help llaw i groesawu'r digwyddiad hynod yma i Abertawe a'r fro."
Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod ydi Dyfrig Ellis, Prifathro Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las yn Llansamlet.
Straeon heddiw
- - Cyrraedd maes y Steddfod
- Alex yn ôl ar lwyfan yr Urdd
- Coron gyntaf Mari i'r Urdd
- Cyril y Swan yn cefnogi
- Eisteddfod yr Urdd 2002 - 2011
- Eisteddfodau 2002 - 2010
- Ennill Tlws John a Ceridwen Huighes
- Gwahoddiad i Joio da'r Jacs
- GwyddonLe - prifysgol yn cefnogi
- Llwyddiant Gêm yr Urdd ar y Liberty
- Y Goron a'r Gadair
- Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2010